
Gall bywyd ysgol fod yn anodd – gwaith a gwaith cartref, gwneud ffrindiau, a chodi bob bore! Mae’n hawdd teimlo fod pethau’n stryglo a dechrau meddwl mewn ffyrdd negyddol. Fodd bynnag, weithiau gwneir pethau hyd yn oed yn anoddach oherwydd ein bod yn dweud celwydd wrthym ein hunain. Dyma dair enghraifft o bethau rydyn ni’n eu dweud wrth ein hunain nad ydyn nhw’n wir, a dyma sydd gan y Beibl i’w ddweud amdanyn nhw. Paratowch i gael eich annog!
Mae hwn yn deimlad cyffredin yn enwedig pan fydd pethau’n anodd. Ac eto, mae’r Beibl yn dweud y gwrthwyneb yn glir wrthym.
Gweler Deuteronomium 31:6,
“Peidiwch bod ag ofn, a pheidiwch panicio. Mae’r ARGLWYDD eich Duw yn mynd gyda chi. Fydd e byth yn eich siomi chi, nac yn troi’i gefn arnoch chi.” neu Joshua 1:9,
“Dw i’n dweud eto, bydd yn gryf a dewr! Paid bod ag ofn na phanicio. Dw i, yr ARGLWYDD dy Dduw, yn mynd i fod gyda ti bob cam o’r ffordd!”
neu Eseia 41:10,
“Paid bod ag ofn, achos dw i gyda ti. Paid dychryn – fi ydy dy Dduw di! Dw i’n dy nerthu di ac yn dy helpu di, dw i’n dy gynnal di ac yn dy achub di hefo fy llaw dde.”
Mae Duw bob amser yno yn cynnig nerth a chefnogaeth.
Yn yr eiliadau pan rydyn ni’n teimlo fel sbwriel ac yn amau ein hunain, , mae’n bwysig cofio’r gwerth y mae Duw yn ei roi ar bob un ohonom. Mae Eseia 43:1-5 yn siarad yn uniongyrchol â hyn:
Nawr, dyma mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud – yr un wnaeth dy greu di, Jacob, a rhoi siâp i ti, Israel:
“Paid bod ag ofn! Dw i wedi dy ollwng di’n rhydd!
Dw i wedi dy alw wrth dy enw! Fi piau ti!
Pan fyddi di’n mynd drwy lifogydd, bydda i gyda ti;
neu drwy afonydd, fyddan nhw ddim yn dy gario di i ffwrdd.
Wrth i ti gerdded drwy dân, fyddi di’n cael dim niwed;
fydd y fflamau ddim yn dy losgi di.
Achos fi ydy’r ARGLWYDD dy Dduw di,
Un Sanctaidd Israel, dy Achubwr di!
Rhoddais yr Aifft yn dâl amdanat ti,
Cwsh Ref a Seba yn dy le di.
Dw i’n dy drysori di ac yn dy garu di,
achos ti’n werthfawr yn fy ngolwg i.
Dw i’n barod i roi’r ddynoliaeth yn gyfnewid amdanat ti,
a’r bobloedd yn dy le di.
Paid bod ag ofn, achos dw i gyda ti.
Bydda i’n dod â’th ddisgynyddion di yn ôl o’r dwyrain,
ac yn dy gasglu di o’r gorllewin.
Mae’r adnodau hyn yn ein cysuro drwy ddweud fod Duw wedi ein prynu, yn ein galw wrth ein henwau, ac yn werthfawr yn ei olwg. Mae’n sôn am ein gwerth a’r cariad sydd gan Dduw, ein Creawdwr a’n Tad tuag at bob un ohonom – ni yw ei blant!
Er ei bod yn ymddangos bod dilyn Duw a’r Beibl yn golygu colli allan ar rai profiadau weithiau, mae Galatiaid 5:1-24 yn cynnig persbectif gwahanol iawn:
“Dŷn ni’n rhydd! Mae’r Meseia wedi’n gollwng ni’n rhydd! Felly gwnewch yn siŵr eich bod yn aros felly, a gwrthod cario’r baich o fod yn gaeth byth eto.” Adnod 1 (Darllenwch weddill y bennod i ddysgu mwy).
Mae’r bennod yn sôn am y rhyddid a geir yn Iesu yn unig, a’r alwad i fyw yn nerth yr Ysbryd Glân, sy’n ein llenwi â cariad, llawenydd, heddwch a hunanreolaeth. Mae cael y pethau hyn yn anhygoel ac i’r gwrthwyneb llwyr i golli allan. Beth bynnag rydych chi’n teimlo eich bod chi’n colli allan arno, mae’r Beibl yn dweud yn glir bod bywyd gyda Duw yn well. Yn Ioan 10:10 mae Iesu yn addo’r bywyd gorau trwy ffydd:
“Mae’r lleidr yn dod gyda’r bwriad o ddwyn a lladd a dinistrio. Dw i wedi dod i roi bywyd i bobl, a hwnnw’n fywyd ar ei orau.”
Mae’n naturiol weithiau i deimlo’n unig neu gwestiynu ein gwerth, nid oes yr un ohonom yn berffaith. Ac eto, mae’n bwysig cydnabod ein bod yn byw mewn cyfnod arbennig yn ein hanes. Mae Iesu wedi dod yn ôl yn fyw, drwy ddod allan o’r bedd mewn atgyfodiad nerth a bywyd, ac mae wedi dechrau teyrnas newydd: teyrnas Dduw. Ac eto, nid yw teyrnas Dduw wedi cyrraedd yn llawn eto – bydd hyn yn digwydd pan fydd Iesu yn dod yn ôl. Tan hynny, mae gennym gobaith a chwmni Iesu. Gall y gobaith hwn wasanaethu fel goleudy, gan ein harwain trwy’r tonnau stormus: pethau anodd sy’n digwydd yn yr ysgol ac yn ein bywyd.
Yn yr Ysgol, gallwch chi ddod o hyd i orffwys yn y gwir hynny:
Trwy ddal gafael ar y pethau hyn a dibynnu ar Dduw, gallwch chi ennill y frwydr yn erbyn y celwyddau sy’n ceisio tynnu’ch hyder a’ch llawenydd i ffwrdd. Os gwnewch hyn, byddwch nid yn unig yn ymdopi â heriau’r ysgol, ond hefyd yn dod yn oleuni a gobaith i’r rhai o’ch cwmpas. Cofiwch, nid dim ond cael graddau da yw pwrpas eich taith drwy’r ysgol; mae hefyd yn gyfle i dyfu yn eich ffydd, gan orffwys a dibynnu ar eich Duw a’ch Gwaredwr.