Dydd Sul 1af Rhagfyr

Eseia 7:14

Felly, mae’r Meistr ei hun yn mynd i roi arwydd i chi! Edrychwch, bydd y ferch ifanc yn feichiog, ac yn cael mab – a bydd y plentyn yn cael ei alw yn Emaniwel.

Eseia 9:1-7

1 Ond fydd y tywyllwch ddim yn para

i’r tir aeth drwy’r fath argyfwng!

Y tro cyntaf, cafodd tir Sabulon

a thir Nafftali eu cywilyddio;

ond yn y dyfodol bydd Duw

yn dod ag anrhydedd i Galilea’r Cenhedloedd,

ar Ffordd y Môr,

a’r ardal yr ochr arall i afon Iorddonen.

 

2 Mae’r bobl oedd yn byw yn y tywyllwch

wedi gweld golau llachar.

Mae golau wedi gwawrio

ar y rhai oedd yn byw dan gysgod marwolaeth.

3 Ti wedi lluosogi’r genedl,

a’i gwneud yn hapus iawn;

maen nhw’n dathlu o dy flaen di

fel ffermwyr adeg y cynhaeaf,

neu filwyr yn cael sbri wrth rannu’r ysbail.

 

4 Achos rwyt ti wedi torri’r iau

oedd yn faich arnyn nhw,

a’r ffon oedd yn curo’u cefnau nhw

– sef gwialen y meistr gwaith –

fel y gwnest ti bryd hynny yn Midian. 

5 Bydd yr esgidiau fu’n sathru maes y gâd,

a’r gwisgoedd gafodd eu rholio mewn gwaed,

yn cael eu taflu i’r fflamau i’w llosgi.

 

6 Achos mae plentyn wedi cael ei eni i ni,

mab wedi cael ei roi i ni.

Bydd e’n cael y cyfrifoldeb o lywodraethu.

A bydd yn cael ei alw yn

Strategydd rhyfeddol, y Duw arwrol,

Tad yr oesoedd, Tywysog heddwch.

7 Fydd ei lywodraeth ddim yn stopio tyfu,

a bydd yn dod â llwyddiant di-ben-draw

i orsedd Dafydd a’i deyrnas.

Bydd yn ei sefydlu a’i chryfhau

a theyrnasu’n gyfiawn ac yn deg

o hyn allan, ac am byth.

Mae’r ARGLWYDD hollbwerus yn benderfynol

o wneud hyn i gyd.

Cwestiynau

Mae’n bwysig cofio mai cynllun Duw o’r cychwyn oedd anfon Iesu Grist i’r byd. Mae’r Hen
Destament cyfan yn pwyntio at enedigaeth Iesu. Yn ein darlleniad ni heddiw, mae Eseia – oedd
yn ddyn oedd yn byw 800 mlynedd cyn i Iesu gael ei eni – yn dweud y byddai Duw, rhyw ddydd,
yn anfon Brenin arbennig iawn i’r byd.

Cwestiwn 1

Ystyr ‘Immanuel’ yw ‘Duw gyda ni’. Sut mae’r adnod (Eseia 7:14) yn dod yn wir pan fo Iesu yn cael ei eni?

Cwestiwn 2

Mae’r geiriau hyn yn disgrifio Iesu mor berffaith – sut mae Eseia’n disgrifio’r ‘bachgen’ sy’n mynd i gael ei eni yn y dyfodol?

Cwestiwn 3

Pam fod y ‘bachgen’ hwn yn mynd i ddod i’r byd? Sut mae’n mynd i fendithio pobl Dduw?

Cwestiwn 4
Ydi’r adnodau hyn yn dy helpu i ryfeddu ar Iesu Grist heddiw?

Gweddïo: Diolch, Arglwydd, dy fod wedi addo anfon Iesu i’r byd o’r cychwyn! Diolch fod y Beibl cyfan yn pwyntio at ei ddyfodiad. Diolch mai Iesu yw’r bachgen’ yn Eseia sy’n mynd i ddod â ‘goleuni’ i’r byd!

Want to know more?