Salm 1

Salm 1

 

1 Mae’r un sy’n gwrthod gwrando ar gyngor pobl ddrwg

wedi ei fendithio’n fawr;

yr un sydd ddim yn cadw cwmni pechaduriaid,

nac yn eistedd gyda’r rhai

sy’n gwneud dim byd ond dilorni pobl eraill;

2 yr un sydd wrth ei fodd

yn gwneud beth mae’r ARGLWYDD eisiau,

ac yn myfyrio ar y pethau mae’n eu dysgu ddydd a nos.

3 Bydd fel coeden wedi ei phlannu wrth ffrydiau o ddŵr,

yn dwyn ffrwyth yn ei thymor,

a’i dail byth yn gwywo.

Beth bynnag mae’n ei wneud, bydd yn llwyddo.

 

4 Ond fydd hi ddim felly ar y rhai drwg!

Byddan nhw fel us

yn cael eu chwythu i ffwrdd gan y gwynt.

5 Fydd y rhai drwg ddim yn gallu gwrthsefyll y farn.

Fydd pechaduriaid ddim yn cael sefyll

gyda’r dyrfa o rai cyfiawn.

6 Mae’r ARGLWYDD yn gofalu am y rhai sy’n ei ddilyn,

ond bydd y rhai drwg yn cael eu difa.

 

Cwestiynau

Mae’r ddau salm cyntaf yn esbonio beth yw bwriad y llyfr yma o ganeuon.

 

Cwestiwn 1

Mae’r salm yn disgrifio dau berson gwahanol iawn i’w gilydd. Pwy ydyn
nhw? Gwna restr o’r ffyrdd mae’r salm yn eu disgrifio nhw.

 

Cwestiwn 2

Pwy hoffet ti fod yn debyg iddo?

Y person sy ‘wedi ei fendithio’ yw’r cyntaf i gael ei ddisgrifio. Dyw’r person yma
ddim yn cerdded, sefyll nac eistedd gyda’r bobl ddrwg, ond mae nhw ‘wrth eu
bodd yn gwneud beth mae’r Arglwydd eisiau, ac yn myfyrio ar y pethau mae’n
eu dysgu ddydd a nos,’ adnod 2. Ai dyma sut wyt ti’n ymddwyn?
Efallai bod dy fywyd di yn wahanol iawn i hyn. Efallai ein bod yn trio gwneud
daioni a darllen ein Beibl, ond yn aml, rydyn ni’n methu. Felly, pa obaith sydd?
Er nad ydyn ni’n cyrraedd y safon, mae yna un sydd! Iesu!
Yn y gân gyntaf, gwelwn bod angen dyn perffaith gan fod Adda wedi methu, a
gwelwn hefyd na allwn ni fod yn berffaith. Mae’n dda i ganu am Iesu achos fe
yw ein bywyd a’n gobaith – ni wnaiff unrhyw un nac unrhyw beth arall y tro.
Cofia, pan fod Duw yn ein hachub, cawn orchymyn i fod yn fwy fel Iesu. Felly
dyma amser da i stopio ac i ofyn i Dduw ein helpu i garu y pethau y mae e’n eu
caru, ac i droi i ffwrdd oddi wrth y pethau y mae e’n eu casau. Gallwn ddiolch i
Dduw am ddanfon Iesu i farw yn ein lle, achos hebddo fe, ni yw’r bobol ddrwg
yn adnodau 4-5. Mae’n anhygoel bod Iesu wedi ei wneud yn bechod drosom
ni, wedi ei gondemnio fel dyn drwg. Ac oherwydd hyn, gallwn ni fod y bobl
‘dduwiol’ yn adnod 6, y rhai mae’r Arglwydd yn gofalu amdanynt!

Cwestiwn 3

Pa bethau ymarferol gelli di wneud i ‘wneud beth mae’r Arglwydd
eisiau’?

 

Cwestiwn 4


Drwy Iesu y cawn ein bendithio, ac y cawn ein cyfri ymhlith y ‘dyrfa o’r
rai cyfiawn’. Os wnei di gredu ynddo ef, rwyt ti ymhlith y cyfiawn yn
llygaid Duw. Wyt ti’n credu yn Iesu?


Gweddïa: Diolch i Dduw am Iesu, yr unig ddyn sy’n wirioneddol gyfiawn, ac
a fu farw drosom ni. Gofyn i Dduw dy wneud yn fwy fel Iesu yn ei fywyd
cyfiawn.


I fynd yn ddyfnach:
1) Darllen Joshua 1 ad 7-9. Sut mae e’n debyg i Salm 1 ad 1-3? Pwy oedd
Joshua? Arweiniodd pobl Dduw dros rwystr afon yr Iorddonen er
mwyn iddynt fynd mewn i Wlad yr Addewid. Ystyr yr enw Joshua yw
‘Iachawdwriaeth yw yr Arglwydd’. Mae’n ddarlun o iachawdwr y mae
Duw yn ei apwyntio i arwain ei bobl allan o farwolaeth, i mewn i
fendith ac i fywyd. Ydy hyn yn eich atgoffa o unrhywun?
2) Darllen Mathew 5 ad 1-12. Beth yw’r gair o Salm 1 sy’n ymddangos 9
o weithiau? Wrth i’r bobl wrando ar Iesu dylent fod yn meddwl
‘Dyma’r dyn o Salm 1 sydd ‘wedi ei fendithio’, ac mae wedi dod i
rannu ei fendith gyda ni’.

Want to know more?