Salm 3

Salm 3

Salm gan Dafydd pan oedd yn ffoi oddi wrth ei fab Absalom.

1 O ARGLWYDD, mae gen i gymaint o elynion!

Mae cymaint o bobl yn ymosod arna i.

2 Mae cymaint ohonyn nhw’n dweud,

“Fydd Duw ddim yn dod i’w achub e!”

Saib

3 Ond ARGLWYDD, rwyt ti fel tarian o’m cwmpas.

Ti ydy’r Un dw i’n brolio amdano!

Ti ydy’r Un sy’n rhoi hyder i mi.

4 Dim ond i mi weiddi’n uchel ar yr ARGLWYDD,

bydd e’n fy ateb i o’i fynydd cysegredig.

Saib

5 Dw i wedi gallu gorwedd i lawr, cysgu a deffro,

am fod yr ARGLWYDD yn gofalu amdana i.

6 Does gen i ddim ofn y miloedd o filwyr

sy’n ymosod arna i o bob cyfeiriad.

 

7 Côd, ARGLWYDD!

Achub fi, O fy Nuw.

Rho glatsien iawn i’m gelynion i gyd.

Torra ddannedd y rhai drwg.

8 “Yr ARGLWYDD sy’n achub!”

Rwyt ti’n bendithio dy bobl!

Saib

Cwestiynau

Fe ysgrifennodd Dafydd y salm pan oedd yn ffoi oddiwrth ei fab, Absalom, a
oedd yn trio ei ladd er mwyn dod yn frenin.

Cwestiwn 1
Sut fyddet ti’n disgrifio ‘naws’ y salm?

Cwestiwn 2
Wyt ti erioed wedi meddwl ‘mae gen i gymaint o elynion’? Wyt ti erioed
wedi meddwl fod gen ti lawer o elynion?


Nid llyfr diflas yw’r Beibl. Edrych ar bennawd Salm 3. Roedd rhaid i Dafydd ffoi
oddiwrth ei fab ei hun, Absalom, neu byddai’n cael ei ladd! Gelli di ddarllen
hanes Absalom yn 2 Samuel 15.

Mae’n rhaid i ni gofio ein bod yn darllen caneuon a gweddïau brenin mwy na
Dafydd yma. Dyma’r gweddïau a’r caneuon a weddïodd ac a ganodd Iesu ei
hun. Cafodd Iesu ei fradychu gan ffrind agos, wedyn ei arestio a’i ddedfrydu i’w
groeshoelio. Mae’r salmau yn ein helpu ni i ddeall sut oedd Iesu’n gallu
wynebu’r fath amgylchiadau anodd. Mae Iesu wir yn ein deall ni ac yn
cydymdeimlo gyda ni. Dylai hynny dy annog i weddïo am help oddi wrtho fe. Ac
fel Iesu, gelli di wir ymddiried yn dy Dad nefol am bopeth. Mae Iesu wedi profi
hynny yn y ffordd mwyaf eithafol. Gallai orwedd i lawr i farw gan ymddiried y
byddai’n deffro eto, am fod yr ARGLWYDD yn ei gynnal.

Cwestiwn 3

Beth allwn ni ddysgu o’r salm sy’n gallu ein helpu ni pan ydyn ni’n rhy
ofnus i gysgu neu ddim yn gallu cysgu?

Cwestiwn 4
Ffeindia un wers ymarferol y gelli di ddysgu o Salm 3?
Gweddïa: Dad, diolch i ti mai ti yw ein nerth a’n tarian, yn ein cadw’n saff, pan
ein bod yn teimlo bod pawb yn ein herbyn.

Want to know more?