Salm 4

Salm 4

I’r arweinydd cerdd: Salm i gyfeiliant offerynnau llinynnol. Salm Dafydd.

1 O Dduw, ateb fi pan dw i’n galw arnat!

Ti ydy’r un sy’n achub fy ngham!

Dw i mewn argyfwng, ond gelli di ddod â fi allan.

Dangos drugaredd ata i, a gwrando ar fy ngweddi.

 

2 “Chi bobl feidrol,

am faint mae fy enw i gael ei sarhau?

Am faint ydych chi’n mynd i roi’ch bryd ar bethau diwerth,

a dilyn pethau twyllodrus?”

Saib

 

3 Deallwch fod yr ARGLWYDD yn cadw’r rhai ffyddlon iddo’i hun!

Mae’r ARGLWYDD yn clywed pan dw i’n galw arno.

4 Dylech chi grynu mewn ofn, a stopio pechu!

Myfyriwch ar y peth ar eich gwely, a dechreuwch wylo.

5 Dewch â chyflwyno’r aberthau iawn iddo;

trowch a trystio’r ARGLWYDD.

 

6 Mae llawer yn gofyn, “Pryd welwn ni ddyddiau da eto?”

O ARGLWYDD, wnei di fod yn garedig aton ni?

7 Gwna fi’n hapus eto, fel yr adeg

pan mae’r cnydau ŷd a grawnwin yn llwyddo.

8 Bydda i’n gallu gorwedd i lawr a chysgu’n dawel,

am dy fod ti, O ARGLWYDD, yn fy nghadw i’n saff.

Cwestiynau

Dy’n ni ddim yn gwybod y stori tu ôl i’r salm, ond efallai ei fod yn debyg i’r hyn
oedd yn digwydd yn Salm 3.

Cwestiwn 1
Sut fyddet ti’n esbonio’r salm mewn brawddeg neu ddwy?

Cwestiwn 2
Beth sy’n cael ei ailadrodd yn adnod 1 a 3, a beth mae hyn yn dweud
wrthon ni am ein gweddïau?


Mae’r gair ‘clywed’ yn cael ei ailadrodd yn yr adnodau hyn. Yn adnod 1 mae
Dafydd yn ymbil ar Dduw i wrando ar ei weddïau. Mae Dafydd yn gwybod y
bydd Duw yn ei glywed. Gallwn ni fod yn sicr fod Duw yn gwrando ac yn ateb
ein gweddïau ni. Mae’r Beibl yn dweud wrthon ni dro ar ôl tro fod Duw yn
gwrando ar ein gweddïau ac yn eu hateb. Ry ni’n wynebu cymaint o frwydrau,
cymaint o demtasiynau, cymaint o benderfyniadau mewn bywyd – rydyn ni
angen help; rydyn ni angen i Dduw ateb. Efallai bod hyn yn amser da i ystyried
ac i ofyn i Dduw i’n helpu ni fod yn wir o ddifri mewn gweddi. Mae’n dda iawn i weddïo gyda’g eraill ac i alw allan ar Dduw gyda’n gilydd.

Cwestiwn 3

Wyt ti’n ymwybodol bod Duw yn clywed ac yn ateb dy weddïau? Os wyt
ti, sut mae hyn yn newid dy weddïau?

Cwestiwn 4

Mae Dafydd yn gwybod y bydd Duw yn ei gysuro (adnod 2), ac yn ei
gadw’n saff (adnod 8). Sut mae profiad personol Dafydd yn adnod 8 yn
ein helpu ni pan fyddwn yn wynebu cyfnodau o ofn.


Gweddïa: Diolch, Arglwydd, dy fod yn gwrando ar fy ngweddïau.

Want to know more?