
I’r arweinydd cerdd: Salm i gyfeiliant ffliwt. Salm Dafydd.
1 Gwranda ar beth dw i’n ddweud, O ARGLWYDD;
ystyria yn ofalus beth sy’n fy mhoeni i.
2 Cymer sylw ohono i’n gweiddi am help,
oherwydd arnat ti dw i’n gweddïo
fy Mrenin a’m Duw.
3 Gwranda arna i ben bore, O ARGLWYDD;
Dw i’n pledio fy achos wrth iddi wawrio,
ac yn disgwyl am ateb.
4 Dwyt ti ddim yn Dduw sy’n mwynhau drygioni;
dydy pobl ddrwg ddim yn gallu aros yn dy gwmni.
5 Dydy’r rhai sy’n brolio ddim yn gallu sefyll o dy flaen di;
ti’n casáu’r rhai sy’n gwneud drwg.
6 Byddi’n dinistrio’r rhai sy’n dweud celwydd;
mae’n gas gen ti bobl sy’n dreisgar ac yn twyllo, O ARGLWYDD.
7 Ond dw i’n gallu mynd i mewn i dy dŷ di
am fod dy gariad di mor anhygoel.
Plygaf i addoli mewn rhyfeddod yn dy deml sanctaidd.
8 O ARGLWYDD, arwain fi i wneud beth sy’n iawn.
Mae yna rai sy’n fy ngwylio i ac am ymosod arna i;
plîs symud y rhwystrau sydd ar y ffordd o’m blaen i.
9 Achos dŷn nhw ddim yn dweud y gwir;
eu hawydd dyfnaf ydy dinistrio pobl!
Mae eu geiriau’n drewi fel bedd agored;
a’u tafodau slic yn gwneud dim byd ond seboni.
Gwna i’w cynlluniau nhw eu baglu!
Tafla nhw i ffwrdd am fod wedi tynnu’n groes gymaint!
Maen nhw wedi gwrthryfela yn dy erbyn di!
11 Ond gad i bawb sy’n troi atat ti
am loches fod yn llawen!
Gad iddyn nhw orfoleddu am byth!
Cysgoda drostyn nhw,
er mwyn i’r rhai sy’n caru dy enw di gael dathlu.
12 Oherwydd byddi di’n bendithio’r rhai cyfiawn, O ARGLWYDD;
bydd dy ffafr fel tarian fawr o’u cwmpas nhw.
Salm gan Dafydd yw hwn.
Cwestiwn 1
Ydy Duw yn gwrando ar dy weddïai? Wyt ti’n gweddïo gan ddisgwyl y
bydd Duw yn gwrando arnat ti?
Cwestiwn 2
Beth mae adnodau 4-5 yn danos i ni am bechod?
Cwestiwn 3
Sut gall Dafydd fynd i mewn i bresenoldeb Duw (adnod 7)?
Yn adnod 7 mae Dafydd yn dweud ‘Ond dw i’n gallu mynd i mewn i dy dŷ di am fod dy gariad di mor anhygoel’. Beth ydyn ni’n gwybod am gariad anhygoel
Duw? Edrycha ar 1 Ioan 3:1 ‘Meddyliwch mor aruthrol fawr ydy’r cariad mae’r
Tad wedi’i ddangos aton ni! Dyn ni’n cael ein galw’n blant i Dduw! Ac mae’n
berffaith wir!’
Mae Duw wedi tywallt ei gariad droson ni, drwy ddanfon ei fab, Iesu, i farw yn
ein lle. Felly nawr, gallwn gael perthynas gydag ef. Mae Dafydd yn gallu dod i
mewn i bresenoldeb Duw oherwydd aberth Iesu.
Cwestiwn 4
Gallwn ni ddod i mewn i bresenoldeb Duw, siarad gyda’g e a chael
perthynas gyda’g e o achos marwolaeth ac atgyfodiad Iesu. Ydy hyn yn
cael effaith ar dy fywyd di?
Gweddïa: Diolch, Dad, am ddanfon Iesu fel y gallaf i gael perthynas gyda ti.