Salm 9

Salm 9

I’r arweinydd cerdd: Salm i leisiau merched. Salm Dafydd.

1 Addolaf di, ARGLWYDD, o waelod calon;

a sôn am yr holl bethau rhyfeddol wnest ti.

2 Byddaf yn llawen, a gorfoleddaf ynot.

Canaf emyn o fawl i dy enw, y Goruchaf.

 

3 Pan mae fy ngelynion yn ceisio dianc,

maen nhw’n baglu ac yn cael eu dinistrio o dy flaen di,

4 am dy fod ti’n camu i mewn a gweithredu ar fy rhan i.

Ti’n eistedd ar yr orsedd ac yn dyfarnu’n gyfiawn.

 

5 Ti sy’n ceryddu’r cenhedloedd,

yn dinistrio’r rhai drwg,

ac yn cael gwared â nhw am byth bythoedd!

6 Mae hi ar ben ar y gelyn!

Mae eu trefi’n adfeilion,

a fydd neb yn cofio ble roedden nhw.

 

7 Ond mae’r ARGLWYDD yn teyrnasu am byth!

Mae ar ei orsedd, yn barod i farnu.

8 Bydd yn barnu’n deg,

ac yn llywodraethu’r gwledydd yn gyfiawn.

 

9 Mae’r ARGLWYDD yn hafan ddiogel

i’r rhai sy’n cael eu gorthrymu —

yn hafan pan maen nhw mewn trafferthion.

10 Mae’r rhai sy’n dy nabod di yn dy drystio di.

Dwyt ti ddim yn troi cefn

ar y rhai sy’n dy geisio di, O ARGLWYDD.

 

11 Canwch fawl i’r ARGLWYDD sy’n teyrnasu yn Seion!

Dwedwch wrth bawb beth mae wedi ei wneud!

12 Dydy e ddim yn diystyru cri y rhai sy’n dioddef;

mae’r un sy’n dial ar y llofruddion yn gofalu amdanyn nhw.

 

13 Dangos drugaredd ata i, O ARGLWYDD;

edrych fel mae’r rhai sy’n fy nghasáu yn gwneud i mi ddioddef.

Dim ond ti all fy nghadw rhag mynd trwy giatiau marwolaeth.

14 Wedyn bydda i’n dy foli di

o fewn i giatiau Seion hardd.

Bydda i’n dathlu am dy fod wedi fy achub i!

 

15 Mae’r cenhedloedd wedi llithro i’r twll wnaethon nhw ei gloddio;

a’u traed wedi mynd yn sownd yn y rhwyd wnaethon nhw ei chuddio.

16 Mae’r ARGLWYDD wedi dangos sut un ydy e!

Mae e’n gwneud beth sy’n iawn.

Mae’r rhai drwg wedi eu dal gan eu dyfais eu hunain.

 

(Yn ddwys:)

Saib

17 Bydd y rhai drwg yn mynd i fyd y meirw.

Dyna dynged y cenhedloedd sy’n diystyru Duw!

18 Ond fydd y rhai mewn angen ddim yn cael eu hanghofio am byth;

fydd gobaith ddim yn diflannu i’r rhai sy’n cael eu cam-drin.

 

19 Cod, O ARGLWYDD!

Paid gadael i ddynion meidrol gael eu ffordd!

Boed i’r cenhedloedd gael eu barnu gen ti!

20 Dychryn nhw, O ARGLWYDD!

gad iddyn nhw wybod mai dim ond dynol ydyn nhw!

Saib

Cwestiynau

Mae’r salm hon yn dathlu buddugoliaeth. Dafydd yn dychwelyd i Jerwsalem.


Cwestiwn 1:
Sut mae’r Salm hon yn disgrifio Duw?


Cwestiwn 2:
Ydych chi erioed wedi bod mewn sefyllfa lle ddigwyddodd rhywbeth annheg ac roedd yn teimlo fel nad oedd neb yn ei drwsio? Sut gwnaeth hynny i chi deimlo am ymddiried yn Nuw i wneud pethau’n iawn?

Cwestiwn 3:
Sut ydych chi’n teimlo wrth ddarllen am Dduw yn farnwr ac yn sicrhau cyfiawnder?


Mae gan Dduw y gallu a’r awdurdod i ddinistrio cenhedloedd. Gallwn ddod o hyd i wirionedd anodd i’w amgyffred ond os ydych chi erioed wedi profi rhywbeth anghyfiawn yn digwydd i chi neu’n annheg neu hyd yn oed rhywbeth drwg neu ddrwg, yna gallwch gael cipolwg ar y teimladau i gyfiawnder fodoli ac ennill.


Cwestiwn 4:
Gan wybod bod Duw yn gofalu am gyfiawnder a thegwch, sut ydych chi’n teimlo amdano yn teyrnasu am byth ac yn rheoli’r byd?


Gweddïwch: Dad, diolch dy fod di’n teyrnasu am byth.

Want to know more?