
2 Ond wedyn ti, Bethlehem Effrata,
rwyt ti’n un o’r pentrefi
lleiaf pwysig yn Jwda.
Ond ohonot ti y daw un
fydd yn teyrnasu yn Israel –
Un sydd â’i wreiddiau yn mynd yn ôl
i’r dechrau yn y gorffennol pell.
yn rhoi pobl Israel i’r gelyn,
hyd nes bydd yr un sy’n cael y babi
wedi geni’r plentyn.
Wedyn bydd gweddill ei deulu yn dod adre
at blant Israel.
4 Bydd yn codi i arwain ei bobl
fel bugail yn gofalu am ei braidd.
Bydd yn gwneud hyn yn nerth yr ARGLWYDD
a gydag awdurdod yr ARGLWYDD ei Dduw.
Byddan nhw yno i aros,
achos bydd e’n cael ei anrhydeddu
gan bawb i ben draw’r byd.
Mae Micha, sef proffwyd arall oedd yn byw yn bell cyn Iesu, yn dweud y bydd Iesu’n cael ei eni ym Methlehem. Mae’n esbonio y bydd Iesu yn ‘lywodraethwr yn Israel’. Pan gafodd Iesu ei eni, cyflawnwyd proffwydoliaeth Micha.
Cwestiwn 1
Pam fod Micha yn dweud fod ‘tarddiad’ (cychwyn) y Meseia ‘yn y gorffennol’? Beth mae hyn yn ei ddysgu inni am enedigaeth Iesu?
Cwestiwn 2
Beth mae’r Meseia wedi dod i’w wneud? Edrycha yn benodol ar adnodau 4 a 5.
Cwestiwn 3
Sut mae beth ddywedodd Micha wedi dod yn wir pan wnaeth Iesu ddod i’r byd? Sut mae hyn yn ein helpu i ryfeddu ar Iesu?
Gweddïo: Diolch, Dad Sanctaidd, mai Iesu yw’r ‘llywodraethwr’ rwyt wedi ei addo trwy Micha! Diolch mai Iesu yw’r Bugail da sydd wedi cael ei anfon i ‘arwain y praidd yn nerth yr Arglwydd’. Helpa ni i gofio ein bod yn gwbl ddiogel os ydym yn credu yn Iesu.