15 “Bydd yr ARGLWYDD eich Duw yn codi proffwyd arall fel fi o’ch plith chi. Rhaid i chi wrando’n ofalus arno fe. 16 Pan oeddech chi wedi casglu at eich gilydd wrth droed Mynydd Sinai, dyma chi’n dweud wrth yr ARGLWYDD: ‘Paid gwneud i ni wrando ar lais yr ARGLWYDD ein Duw, na gorfod edrych ar y tân mawr yma, rhag i ni farw.’ 17 A dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrtho i, ‘Maen nhw’n iawn. 18 Bydda i’n codi proffwyd arall fel ti o’u plith nhw. Bydda i’n rhoi neges iddo’i chyhoeddi, a bydd e’n dweud beth dw i’n ei orchymyn. 19 Bydd e’n siarad drosto i, a bydd pwy bynnag sy’n gwrthod gwrando ar beth mae e’n ddweud yn atebol i mi.’
Yn Deuteronomium 18, mae Moses yn addo y bydd Duw rhyw ddydd yn anfon ‘Proffwyd’ arall fydd yn siarad ar ran yr Arglwydd. Iesu Grist yw’r ‘Proffwyd’ hwn sydd wedi ei addo.
Cwestiwn 1
Beth yw gwaith y ‘proffwyd’ yma?
Cwestiwn 2
Sut mae’r broffwydoliaeth hon yn cael ei gyflawni gan Iesu?
Cwestiwn 3
Ym mha ffordd y gall hyn ein heffeithio ni?
Gweddïo: Diolch, Arglwydd, mai Iesu yw’r ‘Proffwyd’ sy’n llefaru dy eiriau di wrthym ni! Helpa ni i wrando ar ei eiriau Ef yn ystod y Nadolig hwn.