12 Yna dywed wrtho, ‘Mae’r ARGLWYDD hollbwerus yn dweud,
Edrych! Mae’r dyn sy’n cael ei alw y Blaguryn yn blaguro!
Mae’n mynd i adeiladu teml yr ARGLWYDD.
13 Ie, fe sy’n mynd i adeiladu teml yr ARGLWYDD! Bydd yn cael ei arwisgo, ac yn eistedd mewn ysblander fel brenin ar ei orsedd. A bydd offeiriad yn rhannu ei awdurdod, a’r ddau ohonyn nhw yn cytuno’n llwyr gyda’i gilydd.
Mae’r Proffwyd Sechareia yn dweud y bydd y Duw yn anfon rhywun o’r enw ‘Blaguryn’ (gair sy’n golygu tyfiant newydd ar blanhigyn) fydd yn ail-adeiladu’r Deml (Tŷ Duw yn yr Hen Destament). Yma eto gwelwn rhywyn yn siarad am Iesu Grist gannoedd o flynyddoedd cyn ei eni!
Cwestiwn 1
Beth fydd y ‘Blaguryn’ hwn yn ei wneud?
Cwestiwn 2
Ym mha ffordd mae’r Arglwydd Iesu wedi cyflawni’r pethau yma? Edrych ar Ioan 2:19 i dy helpu.
Gweddïo: Diolch, Dad Sanctaidd, mai Iesu yw’r ‘Blaguryn’ sy’n cael ei broffwydo gan Sechareia. Diolch fod Iesu wedi dod i ail-adeiladu’r Deml trwy atgyfodi o farw’n fyw ar y trydydd dydd. Helpa ni i gofio fod y Beibl i gyd yn pwyntio at ddyfodiad Iesu.