Dydd Sul 8 Rhagfyr

Luc 1:46-56

46 A dyma Mair yn ymateb:

“O, dw i’n moli’r Arglwydd!

47 Mae Duw, fy Achubwr, wedi fy ngwneud i mor hapus!

48 Roedd yn gwybod bod ei forwyn yn ferch gyffredin iawn,

ond o hyn ymlaen bydd pobl o bob oes

yn dweud fy mod wedi fy mendithio,

49 Mae Duw, yr Un Cryf, wedi gwneud pethau mawr i mi –

Mae ei enw mor sanctaidd!

50 Mae bob amser yn trugarhau wrth y rhai sy’n ymostwng iddo.

51 Mae wedi defnyddio’i rym i wneud pethau rhyfeddol! –

Mae wedi gyrru y rhai balch ar chwâl.

52 Mae wedi cymryd eu hawdurdod oddi ar lywodraethwyr,

ac anrhydeddu’r bobl hynny sy’n ‛neb‛.

53 Mae wedi rhoi digonedd o fwyd da i’r newynog,

ac anfon y bobl gyfoethog i ffwrdd heb ddim!

54 Mae wedi helpu ei was Israel,

a dangos trugaredd at ei bobl.

55 Dyma addawodd ei wneud i’n cyndeidiau ni –

dangos trugaredd at Abraham a’i ddisgynyddion am byth.”

 

56 Arhosodd Mair gydag Elisabeth am tua tri mis cyn mynd yn ôl adre.

Cwestiynau

Mae Mair yn dathlu’r newyddion mae wedi ei glywed gan Gabriel drwy ganu cân o fawl! Yn ei chân, mae Mair yn addoli Duw am iddo gadw at ei addewidion i’w bobl trwy anfon y Meseia i’r byd.

Cwestiwn 1

Ym mha ffordd mae Mair yn disgrifio Duw yn yr adnodau hyn? Beth mae’n ei olygu pan mae hi’n galw Duw yn ‘Waredwr’?

Cwestiwn 2

Mewn un gair, disgrifia’r gân hon. Pam dy fod yn dweud hyn?

Cwestiwn 3

Darllena 1 Samuel 2:1-10 lle mae Hanna yn rhoi cân hefyd. Rhoddodd Duw faban i Hanna wedi cyfnod hir o fethu cael plant. Beth sy’n debyg a gwahanol rhwng y ddwy gân? Pam fod Mair yn defnyddio geiriau Hanna yma?

Gweddïo: Diolch, Arglwydd, dy fod wedi cadw dy addewidion trwy anfon Iesu i’r byd. Helpa ni i gael yr un llawenydd ag oedd gan Mair wrth feddwl am enedigaeth Iesu Grist. 

Want to know more?