
1 Y Gair oedd yn bod ar y dechrau cyntaf.
Roedd y Gair gyda Duw,
a Duw oedd y Gair.
2 Roedd gyda Duw o’r dechrau cyntaf un.
3 Drwyddo y crëwyd popeth sy’n bod.
Does dim yn bodoli ond beth greodd e.
a’r bywyd hwnnw’n rhoi golau i bobl.
5 Mae’r golau’n dal i ddisgleirio yn y tywyllwch,
a’r tywyllwch wedi methu ei ddiffodd.
6 Daeth dyn o’r enw Ioan i’r golwg. Duw oedd wedi anfon Ioan i roi tystiolaeth – 7 i ddweud wrth bawb am y golau, er mwyn i bawb ddod i gredu drwy’r hyn oedd yn ei ddweud. 8 Dim Ioan ei hun oedd y golau; dweud wrth bobl am y golau roedd e’n ei wneud. 9 Roedd y golau go iawn, sy’n rhoi golau i bawb, ar fin dod i’r byd.
ac er mai fe greodd y byd,
wnaeth pobl y byd mo’i nabod.
a chael ei wrthod
gan ei bobl ei hun.
12 Ond cafodd pawb wnaeth ei dderbyn,
(sef y rhai sy’n credu ynddo)
hawl i ddod yn blant Duw.
13 Dim am fod ganddyn nhw waed Iddewig
(Dim canlyniad perthynas rywiol a chwant gŵr sydd yma);
Duw sydd wedi’u gwneud nhw’n blant iddo’i hun!
14 Daeth y Gair yn berson o gig a gwaed;
daeth i fyw yn ein plith ni.
Gwelon ni ei ysblander dwyfol—
ei ysblander fel Mab unigryw
wedi dod oddi wrth y Tad
yn llawn haelioni a gwirionedd.
15 Dyma’r un roedd Ioan yn sôn amdano. Cyhoeddodd yn uchel, “Dyma’r un ddwedais i amdano, ‘Mae’r un sy’n dod ar fy ôl i yn bwysicach na fi. Roedd e’n bodoli o’m blaen i.’” 16 Ynddo fe mae un fendith hael wedi cael ei rhoi yn lle’r llall – a hynny i bob un ohonon ni! 17 Rhoddodd Moses Gyfraith Duw i ni; wedyn dyma rodd hael Duw a’i wirionedd yn dod i ni yn Iesu y Meseia. 18 Does neb erioed wedi gweld Duw, ond mae’r Mab unigryw hwn (sy’n Dduw ei hun, gyda’r berthynas agosaf posib â’r Tad), wedi dweud yn glir amdano.
Mae Ioan yn cychwyn ei Efengyl trwy bwysleisio nad genedigaeth Iesu oedd cychwyn ei fodolaeth! Mae Iesu yn Dduw ac felly wedi byw mewn perthynas berffaith gyda Duw’r Tad erioed. Fe yw’r ‘Gair’ sydd wedi dod yn ‘gnawd’.
Cwestiwn 1
Sut mae Ioan yn disgrifio’r ‘Gair’ yn adnodau 1-5? Sut mae’r adnodau hyn yn ein helpu i ryfeddu ar Iesu heddiw?
Cwestiwn 2
Sut mae pobl ar y cyfan yn mynd i ymateb i Iesu? Edrycha’n benodol ar adnodau 6 i 11.
Cwestiwn 3
Beth yw’r hyn mae Iesu yn ei roi i’r bobl sydd yn ei dderbyn? Pam fod hyn mor rhyfeddol?
Cwestiwn 4
Sut mae adnod 14 yn mynd ati i esbonio geni Iesu? Beth mae’n ei olygu pan mae Ioan yn dweud fod y ‘Gair’ wedi dod yn ‘gnawd’?
Gweddïo: Diolch, Dad Sanctaidd, fod y Gair wedi dod yn gnawd. Diolch fod Iesu’n cynnig mabwysiadu unrhyw un sydd yn ei dderbyn Ef! Plîs helpa ni i dderbyn a chredu yn Iesu heddiw.