
1 Cafodd Iesu ei eni yn Bethlehem yn Jwdea, yn y cyfnod pan oedd Herod yn frenin. Ar ôl hynny, daeth gwŷr doeth o wledydd y dwyrain i Jerwsalem 2 i ofyn, “Ble mae’r un sydd newydd gael ei eni yn frenin yr Iddewon? Gwelon ni ei seren yn codi yn y dwyrain, a dŷn ni yma i dalu teyrnged iddo.”
3 Pan glywodd y Brenin Herod hyn roedd wedi cynhyrfu’n lân. Roedd cynnwrf yn Jerwsalem hefyd. 4 Felly galwodd Herod y prif offeiriaid a’r arbenigwyr yn y Gyfraith Iddewig i’w gyfarfod. Gofynnodd iddyn nhw, “Ble mae’r Meseia i fod i gael ei eni?” 5 “Yn Bethlehem Jwdea,” medden nhw. “Dyna ysgrifennodd y proffwyd:
Nid rhyw bentref dibwys yn Jwda wyt ti;
achos ohonot ti daw un i deyrnasu,
un fydd yn fugail i arwain fy mhobl Israel.’”
7 Ar ôl cael gwybod hyn, dyma Herod yn galw’r gwŷr doeth i gyfarfod preifat. Cafodd wybod ganddyn nhw pryd yn union oedd y seren wedi ymddangos. 8 Yna dwedodd, “Ewch i Bethlehem i chwilio am y plentyn. A gadewch i mi wybod pan ddewch o hyd iddo, er mwyn i mi gael mynd i dalu teyrnged iddo hefyd.”
9 Ar ôl gwrando beth oedd gan y brenin i’w ddweud, i ffwrdd â nhw. Dyma’r seren yn mynd o’u blaen, nes iddi aros uwchben yr union fan lle roedd y plentyn. 10 Roedden nhw wrth eu bodd! 11 Pan aethon nhw i mewn i’r tŷ, dyna lle roedd y plentyn gyda’i fam, Mair, a dyma nhw’n disgyn ar eu gliniau o’i flaen a’i addoli. Yna dyma nhw’n agor eu paciau a rhoi anrhegion gwerthfawr iddo – aur a thus a myrr Ref 12 Rhybuddiodd Duw nhw mewn breuddwyd i beidio mynd yn ôl at Herod, felly dyma’r gwŷr doeth yn teithio yn ôl i’w gwlad eu hunain ar hyd ffordd wahanol.
Mae Mathew yn adrodd yr hanes am y seryddion sy’n ymweld ag Iesu wedi iddo gael ei eni.
Roedd pobl o bob math o gefndiroedd yn dod i addoli’r Brenin Iesu—o’r bugeiliaid tlawd i’r seryddion cyfoethog o’r dwyrain!
Cwestiwn 1
Beth mae’r seryddion yn galw Iesu yn adnod 2? Pwy oedd ‘Brenin yr Iddewon’ go iawn—Iesu neu Herod?
Cwestiwn 2
Beth yw ymateb y seryddion pan maent yn gweld Iesu? Pam y dylwn ninnau ymateb yn yr
un ffordd?
Gweddïo: Diolch, Arglwydd, am esiampl y seryddion. Diolch eu bod yn addoli Iesu fel eu Brenin. Helpa ni heddiw i addoli’r Arglwydd Iesu fel ein Brenin ni.