1 Y pwynt ydy hyn: mae’r Archoffeiriad sydd gynnon ni wedi eistedd yn y sedd anrhydedd yn y nefoedd, ar yr ochr dde i’r Duw Mawr ei hun. 2 Dyna’r cysegr mae hwn yn gweini ynddo – y ganolfan addoliad go iawn sydd wedi’i chodi gan yr Arglwydd ei hun, a dim gan unrhyw berson dynol.
Mi fedrwn ni weld cysgod, ond does dim sylwedd iddyn nhw – mae’n nhw’n digwydd o ganlyniad i rhywbeth arall. Yn yr Hen destament roedd Duw wedi rhoi nifer o bethau i’w bobl – offeiriaid, teml ac aberthau. Ond dim ond cysgodion oedd y pethau hyn, mae Iesu Grist wedi dod i’r byd i roi sylwedd iddynt.
Cwestiwn 1
Beth yw gwaith archoffeiriad yn ôl y darlleniad hwn?
Cwestiwn 2
Ym mha ffordd y mae Iesu Grist yn archoffeiriad gwell nag offeiriaid yr Hen Destament? Darllena weddill y bennod i dy helpu ac edrycha ar Hebreaid 4:14-16 hefyd.
Gweddïo: Diolch fod Iesu yn gwireddu holl gysgodion yr Hen Destament. Diolch fod yr offeiriaid a theml yr Hen Destament yn pwyntio ato Ef. Diolch fod Iesu yn offeiriad mawr sy’n gallu cydymdeimlo hefo ni. Helpa ni i ymddiried yn Iesu yn ystod y Nadolig hwn!