
6 Roedd e’n rhannu’r un natur â Duw,
heb angen ceisio gwneud ei hun yn gydradd â Duw;
7 ond dewisodd roi ei hun yn llwyr i wasanaethu eraill,
a gwneud ei hun yn gaethwas,
a dod aton ni fel person dynol –
roedd yn amlwg i bawb ei fod yn ddyn.
8 Yna diraddio ei hun fwy fyth,
a bod yn ufudd, hyd yn oed i farw –
ie, drwy gael ei ddienyddio ar y groes.
9 Felly dyma Duw yn ei ddyrchafu i’r safle uchaf;
a rhoi’r enw pwysica un iddo!
10 Bydd pob glin yn plygu i enw Iesu –
pawb yn y nefoedd,
ar y ddaear,
a than y ddaear;
mai Iesu Grist ydy’r Arglwydd,
ac yn rhoi clod i Dduw y Tad.
Yn ei lythyr at y Philipiaid, mae’r Apostol Paul yn disgrifio holl fywyd Iesu mewn ffordd arbennig. Mae’n gweld fod Iesu wedi dod yn isel (gostwng ei hun) er ein mwyn ni.
Cwestiwn 1
Sut mae Paul yn mynd ati i ddisgrifio genedigaeth Iesu yn yr adnodau hyn?
Cwestiwn 2
Ym mha ffordd mae’r adnodau hyn yn dangos fod Iesu yn ‘ostyngedig’?
Cwestiwn 3
Sut mae gostyngeiddrwydd Iesu yn esiampl i ti heddiw?
Gweddïo: Diolch, Dad, fod Iesu wedi dangos ei ostyngeiddrwydd trwy ddod yn ddyn o gig a gwaed a thrwy farw ar y groes! Helpa fi i ddilyn esiampl Iesu trwy fod yn ostyngedig.