Yn yr adnod yma yn Efengyl Ioan, mae Iesu’n sôn ein bod ni’n cael ein hanfon ganddo i rannu’r newyddion da am ei ddyfodiad. Mae mor bwysig ein bod ni’n rhannu’r newyddion da am Iesu gyda’n ffrindiau a’n teulu dros y Nadolig.
Cwestiwn 1
Beth mae Iesu’n ei olygu pan mae’n dweud ei fod yn ein ‘hanfon’ ni i’r byd?
Cwestiwn 2
Pam mae mor bwysig rannu’r newyddion da am Iesu gyda’n ffrindiau a’n teuluoedd? Pam mae’n gallu bod anodd gwneud hynny?
Gweddïo: Diolch, Dad Sanctaidd, am anfon Iesu Grist i’r byd! Diolch fod Iesu nawr yn ein hanfon ni i rannu’r newyddion da amdano! Helpa ni i siarad gyda’n ffrindiau a’n teulu am Iesu yn ystod y Nadolig.