7 Blant annwyl, peidiwch gadael i unrhyw un eich camarwain chi. Mae rhywun sy’n gwneud beth sy’n iawn yn dangos ei fod yn gyfiawn, yn union fel y mae’r Meseia yn gyfiawn. 8 Mae’r rhai sy’n mynnu pechu yn dod o’r diafol. Dyna mae’r diafol wedi’i wneud o’r dechrau – pechu! Ond y rheswm pam ddaeth Mab Duw i’r byd oedd i ddinistrio gwaith y diafol.
Mae Ioan yn rhoi rheswm arall pan wnaeth Iesu Grist ddod yn ddyn o gig a gwaed: er mwyn dinistrio gwaith Satan!
Cwestiwn 1
Pwy yw’r diafol? (Darllen Genesis 3 os am gymorth)
Cwestiwn 2
Sut mae Iesu wedi mynd ati i ddinistrio gwaith y diafol?
Cwestiwn 3
Pam fod hyn yn newyddion mor dda i ni heddiw sy’n credu yn Iesu Grist? Darllena Rhufeiniaid 16:20 a Hebreaid 2:14 i dy helpu.
Gweddïo: Diolch, Dad, fod Iesu wedi dod i goncro Satan a phechod ar y groes! Diolch ein bod ni yn awr yn rhydd i dy wasanaethu di. Helpa ni i gofio am fuddugoliaeth Iesu yn ystod y Nadolig.