
4 Ond ar yr union adeg roedd Duw wedi’i ddewis, anfonodd ei Fab, wedi’i eni o wraig, wedi’i eni dan y Gyfraith, 5 i dalu’r pris i’n rhyddhau ni oedd yn gaeth i’r Gyfraith, er mwyn i ni gael ein mabwysiadu’n blant i Dduw. 6 A chan eich bod chi sydd ddim yn Iddewon hefyd yn blant iddo bellach, anfonodd Duw Ysbryd ei Fab i’n calonnau ni i gyd, sef yr Ysbryd sy’n gweiddi, “ Abba! Dad!” 7 Felly dim caethweision ydych chi bellach, ond plant Duw; a chan eich bod yn blant iddo, byddwch chithau’n derbyn gan Dduw y cwbl mae wedi addo ei roi i chi.
Nadolig llawen! Yn ei lythyr at y bobl oedd yn byw yn Galatia, mae Paul yn esbonio’n glir pam
fod Iesu Grist wedi dod i’r byd. Cafodd Iesu ei eni er mwyn i ni gael ein mabwysiadu yn blant
iddo Ef! Pan fod person yn cael eu mabwysiadu maent yn cael dod yn rhan o deulu arall. Mae
pob Cristion wedi dod yn rhan o deulu Duw drwy i Iesu ddod i’r byd a marw trosom – dyna’r
anrheg Nadolig mwyaf rhyfeddol.
Cwestiwn 1
Pam fod Iesu wedi dod i’r byd?
Cwestiwn 2
Beth yw’r bendithion mae Iesu wedi ei sicrhau i ni?
Cwestiwn 3
Pam mae mor rhyfeddol ein bod yn gallu galw Duw yn ‘Dad’ heddiw?
Gweddïo: Diolch, Arglwydd, am anfon Iesu i’r byd. Diolch fod Iesu wedi dod i’r byd er mwyn i ni gael rhyddid.
Diolch ei fod wedi dod er mwyn i ni gael ein mabwysiadu yn blant i ti! Ar ddydd Nadolig, helpa ni i addoli’r Arglwydd Iesu Grist. Pan mae pethau eraill yn ceisio hawlio sylw, helpa ni i gofio mai
Iesu yw canolbwynt yr holl ddathlu.