
1 Yr un sydd wedi bodoli o’r dechrau cyntaf – dŷn ni wedi’i glywed e a’i weld e. Do, dŷn ni wedi edrych arno â’n llygaid ein hunain, a’i gyffwrdd â’n dwylo! Gair y bywyd! 2 Daeth y bywyd ei hun i’r golwg, a dŷn ni wedi’i weld e. Gallwn dystio iddo, a dyma dŷn ni’n ei gyhoeddi i chi – y bywyd tragwyddol oedd gyda’r Tad ac sydd wedi dangos ei hun i ni. 3 Ydyn, dŷn ni’n sôn am rywbeth dŷn ni wedi’i weld a’i glywed. Dŷn ni eisiau i chithau brofi’r wefr gyda ni o rannu yn y berthynas yma gyda Duw y Tad, a gyda’i Fab, Iesu y Meseia. 4 Dŷn ni’n ysgrifennu hyn er mwyn i ni i gyd fod yn wirioneddol hapus.
5 Dyma’r neges mae e wedi’i rhoi i ni, a dyma ni nawr yn ei rhannu gyda chi: Golau ydy Duw; does dim tywyllwch o gwbl ynddo. 6 Felly, os ydyn ni’n honni fod gynnon ni berthynas gyda Duw ac eto’n dal i fyw fel petaen ni yn y tywyllwch, mae’n amlwg ein bod ni’n dweud celwydd. Dŷn ni ddim yn byw yn ffyddlon i’r gwir. 7 Ond os ydyn ni’n byw yn y golau, fel mae Duw yn y golau, dŷn ni’n perthyn i’n gilydd, ac mae gwaed Iesu ei Fab yn ein glanhau ni o bob pechod.
Cwestiwn 1
Sut mae Ioan yn disgrifio Duw yn yr adnodau hyn ac ym mha ffordd mae gwybod y pethau hyn yn gysur i ti?
Cwestiwn 2
Beth mae’n golygu i ‘fyw yn y tywyllwch’?
Cwestiwn 3
Sut mae modd i ni fyw yn y goleuni? Pwy sy’n ein glanhau?
Mae llawer o bobl yn credu ein bod yn medru siarad am Dduw a dod ato fel yr ydym ni eisiau – bron fel pe bai Duw yna i ni a’i fod yn gorfod ffitio i mewn gyda’r hyn de ni eisiau. Camgymeriad yw hynny – Duw sy’n rheoli a rhaid i ninnau fod yn ofalus iawn wrth ddod ato. Mae’n gysur gwybod
fod Duw yn oleuni ac yn berffaith a sanctaidd, ond mae hyn hefyd yn ddychryn i ni gan ein bod yn gwybod fod yna bethau tywyll yn ein calon ni. Sut all dywyllwch ddod at oleuni? Rhaid i dywyllwch newid – a diolch fod Iesu yn medru gwneud hyn.
Gweddi:
Diolch o Dad fy mod i’n medru dy drystio di yn llwyr. Pan ‘dwi’n edrych ar y pethau neu’r bobl orau yn y byd dwi’n dal i weld tywyllwch, ond diolch dy fod ti yn berffaith a glân; does dim angen i mi boeni dy fod ti am fy nhwyllo neu fy nhrin yn annheg. Dwi’n gwybod mod i ddim fel ti, a dwi’n gwybod mod i’n haeddu dy gosbi, ond dwi’n diolch fod gwaed Iesu yn medru fy nglanhau a’m
gwneud yn oleuni.