
7 Ffrindiau annwyl, dw i ddim yn sôn am ryw orchymyn newydd. Mae’n hen un! Dyma gafodd ei ddweud o’r dechrau cyntaf. Dyma’r hen orchymyn glywoch chi o’r dechrau.Croes 8 Ac eto mewn ffordd mae beth dw i’n ysgrifennu amdano yn newydd. Mae i’w weld ym mywyd Iesu Grist ac ynoch chithau hefyd. Achos mae’r tywyllwch yn diflannu ac mae’r golau go iawn wedi dechrau disgleirio.
9 Mae’r rhai sy’n dweud eu bod nhw’n credu’r gwir ond sy’n bod yn gas at frawd neu chwaer yn dal yn y tywyllwch go iawn. 10 Y rhai sy’n caru eu cyd-Gristnogion sy’n aros yn y golau, a does dim byd fydd yn gwneud iddyn nhw faglu. 11 Ond mae’r rheiny sy’n gas at Gristion arall yn y tywyllwch. Ydyn, maen nhw ar goll yn llwyr yn y tywyllwch. Does ganddyn nhw ddim syniad ble maen nhw’n mynd, am fod y tywyllwch yn eu gwneud nhw’n gwbl ddall.
Cwestiwn 1
Gwna restr o rai o’r Cristnogion rwyt ti’n eu hadnabod. Sut wyt ti yn teimlo tuag at bob un o’r rhain? Beth mae hyn yn ei ddweud amdanat ti?
Cwestiwn 2
Ym mha ffordd yr ydym yn gyd-aelod gyda Christnogion eraill? (1 Corinthiaid 12:12)
Cwestiwn 3
Sut mae person yn caru rhywun? Beth fedri di ei wneud i garu Cristnogion eraill?
Tydi hi ddim yn hawdd caru pobl eraill bob tro! Mae pob un ohonom yn wahanol ac mae tuedd ynom i gyd i fod eisiau ein ffordd ein hunain a gwneud yr hyn sy’n ein plesio ni. Mae’n gysur i’r Cristion i wybod fod yr Ysbryd Glan wedi gweithio yn ei galon sy’n golygu ei fod yn gallu caru Cristnogion eraill. Weithiau dydi hyn ddim yn digwydd yn awtomatig ac mae angen i ni edrych ar ein hagwedd tuag at eraill drwy’r amser. Pan fyddwn yn methu rhaid troi at Iesu i ofyn am faddeuant ac i ofyn am nerth i garu.
Gweddi:
Diolch Dad fod yr Ysbryd Glân yn fy nghalon a diolch fod gennyf fi deulu newydd. Helpa fi i garu eraill a maddau i mi pan ‘dwi’n methu. Dwi eisiau dangos dy oleuni di yn fy mywyd fel bod eraill yn cael eu denu atat ti. Plis helpa fi i wneud hyn.