
1 Y Gair oedd yn bod ar y dechrau cyntaf.
Roedd y Gair gyda Duw,
a Duw oedd y Gair.
2 Roedd gyda Duw o’r dechrau cyntaf un.
3 Drwyddo y crëwyd popeth sy’n bod.
Does dim yn bodoli ond beth greodd e.
a’r bywyd hwnnw’n rhoi golau i bobl.
5 Mae’r golau’n dal i ddisgleirio yn y tywyllwch,
a’r tywyllwch wedi methu ei ddiffodd.
6 Daeth dyn o’r enw Ioan i’r golwg. Duw oedd wedi anfon Ioan i roi tystiolaeth – 7 i ddweud wrth bawb am y golau, er mwyn i bawb ddod i gredu drwy’r hyn oedd yn ei ddweud. 8 Dim Ioan ei hun oedd y golau; dweud wrth bobl am y golau roedd e’n ei wneud. 9 Roedd y golau go iawn, sy’n rhoi golau i bawb, ar fin dod i’r byd.
ac er mai fe greodd y byd,
wnaeth pobl y byd mo’i nabod.
a chael ei wrthod
gan ei bobl ei hun.
12 Ond cafodd pawb wnaeth ei dderbyn,
(sef y rhai sy’n credu ynddo)
hawl i ddod yn blant Duw.
13 Dim am fod ganddyn nhw waed Iddewig
(Dim canlyniad perthynas rywiol a chwant gŵr sydd yma);
Duw sydd wedi’u gwneud nhw’n blant iddo’i hun!
14 Daeth y Gair yn berson o gig a gwaed;
daeth i fyw yn ein plith ni.
Gwelon ni ei ysblander dwyfol—
ei ysblander fel Mab unigryw
wedi dod oddi wrth y Tad
yn llawn haelioni a gwirionedd.
15 Dyma’r un roedd Ioan yn sôn amdano. Cyhoeddodd yn uchel, “Dyma’r un ddwedais i amdano, ‘Mae’r un sy’n dod ar fy ôl i yn bwysicach na fi. Roedd e’n bodoli o’m blaen i.’” 16 Ynddo fe mae un fendith hael wedi cael ei rhoi yn lle’r llall – a hynny i bob un ohonon ni! 17 Rhoddodd Moses Gyfraith Duw i ni; wedyn dyma rodd hael Duw a’i wirionedd yn dod i ni yn Iesu y Meseia. 18 Does neb erioed wedi gweld Duw, ond mae’r Mab unigryw hwn (sy’n Dduw ei hun, gyda’r berthynas agosaf posib â’r Tad), wedi dweud yn glir amdano.
19 Dyma’r arweinwyr Iddewig yn Jerwsalem yn anfon offeiriaid a Lefiaid at Ioan Fedyddiwr i ofyn iddo pwy oedd. 20 Dwedodd Ioan yn blaen wrthyn nhw, “Dim fi ydy’r Meseia.”
21 “Felly pwy wyt ti?” medden nhw. “Ai Elias y proffwyd wyt ti?”
“Nage” meddai Ioan.
“Ai y Proffwyd soniodd Moses amdano wyt ti?”
Atebodd eto, “Na.”
Cwestiwn 1
Oes rhywbeth yn dy daro di’n rhyfedd am y ffordd a’r amser mae Nicodemus yn dod i weld Iesu?
Cwestiwn 2
Beth mae Nicodemus yn ffeindio yn anodd i ddeall am yr hyn mae Iesu yn ei ddweud?
Cwestiwn 3
Pam fod e’n cael trafferth deall ystyr geiriau Iesu?
Gweddi:
Diolch, o Arglwydd, dy fod ti’n ein hadnabod ni mor dda ac yn amyneddgar pan nad ydyn ni’n deall.
Agor ein llygaid i ddeall yr hyn rwyt ti’n ei ddweud wrthon ni drwy Iesu a’r Beibl. Amen