Dydd Llun 13eg Ionawr

Ioan 4:1-26

1 Roedd y Phariseaid wedi dod i wybod fod Iesu yn ennill ac yn bedyddio mwy o ddilynwyr na Ioan Fedyddiwr 2 (er mai’r disgyblion oedd yn gwneud y bedyddio mewn gwirionedd, dim Iesu). 3 Pan glywodd Iesu am hyn, gadawodd Jwdea a mynd yn ôl i Galilea.

4 Ar y ffordd roedd rhaid iddo basio drwy Samaria. 5 Daeth i bentref o’r enw Sychar, yn ymyl y darn tir enwog roedd Jacob wedi’i roi i’w fab Joseff ers talwm. 6 A dyna lle roedd ffynnon Jacob. Roedd Iesu wedi blino’n lân, ac eisteddodd i orffwys wrth y ffynnon. Roedd hi tua chanol dydd.

7 Daeth gwraig yno i godi dŵr. Samariad oedd y wraig, a gofynnodd Iesu iddi, “Ga i ddiod gen ti?” 8 (Roedd ei ddisgyblion wedi mynd i’r dre i brynu bwyd.)

9 “Iddew wyt ti,” meddai’r wraig, “Sut alli di ofyn i mi am ddiod? Dw i’n wraig o Samaria.” (Y rheswm pam wnaeth hi ymateb fel yna oedd fod Iddewon fel arfer yn gwrthod defnyddio’r un llestri â’r Samariaid.)

10 Atebodd Iesu, “Taset ti ond yn gwybod beth sydd gan Dduw i’w roi i ti, a phwy ydw i sy’n gofyn i ti am ddiod! Ti fyddai’n gofyn wedyn, a byddwn i’n rhoi dŵr bywiol i ti.”

11 “Syr,” meddai’r wraig, “Ble mae’r ‛dŵr bywiol‛ yma sydd gen ti? Does gen ti ddim bwced i godi dŵr ac mae’r pydew yn ddwfn. 12 Wyt ti’n meddwl dy fod di’n fwy na’n tad ni, Jacob? Jacob roddodd y pydew i ni. Buodd e’n yfed y dŵr yma, a’i feibion hefyd a’i anifeiliaid.”

13 Atebodd Iesu, “Bydd syched eto ar bawb sy’n yfed y dŵr yma, 14 ond fydd byth dim syched ar y rhai sy’n yfed y dŵr dw i’n ei roi. Yn wir, bydd y dŵr dw i’n ei roi yn troi’n ffynnon o ddŵr y tu mewn iddyn nhw, fel ffrwd yn llifo i fywyd tragwyddol.”

15 Meddai’r wraig wrtho, “Syr, rho beth o’r dŵr hwnnw i mi! Fydd dim syched arna i wedyn, a fydd dim rhaid i mi ddal ati i ddod yma i nôl dŵr.”

16 Yna dwedodd Iesu wrthi, “Dos i nôl dy ŵr, a thyrd yn ôl yma wedyn.”

17 “Does gen i ddim gŵr,” meddai’r wraig.

“Ti’n iawn!” meddai Iesu wrthi, “Does gen ti ddim gŵr. 18 Y gwir ydy dy fod wedi cael pump o wŷr, a ti ddim yn briod i’r dyn sy’n byw gyda ti bellach. Ti wedi dweud y gwir.”

19 “Dw i’n gweld dy fod ti’n broffwyd syr,” meddai’r wraig. 20 “Dwed wrtho i, roedd ein hynafiaid ni’r Samariaid yn addoli ar y mynydd hwn, ond dych chi’r Iddewon yn mynnu mai Jerwsalem ydy’r lle iawn i addoli.”

21 Atebodd Iesu, “Cred di fi, mae’r amser yn dod pan fydd pobl ddim yn addoli’r Tad yma ar y mynydd hwn nac yn Jerwsalem chwaith. 22 Dych chi’r Samariaid ddim yn gwybod beth dych chi’n ei addoli go iawn; dŷn ni’r Iddewon yn nabod y Duw dŷn ni’n ei addoli, am mai drwy’r Iddewon mae achubiaeth Duw yn dod. 23 Ond mae’r amser yn dod, ac mae yma’n barod, pan fydd Ysbryd Duw yn galluogi pobl i addoli Duw fel y mae mewn gwirionedd. Pobl sy’n ei addoli fel hyn sydd gan Dduw eisiau. 24 Ysbryd ydy Duw, ac Ysbryd Duw sy’n galluogi pobl i addoli Duw fel y mae mewn gwirionedd.”

25 Meddai’r wraig, “Dw i’n gwybod fod y Meseia (sy’n golygu ‘Yr un wedi’i eneinio’n frenin’) yn dod. Pan ddaw e, bydd yn esbonio popeth i ni.”

26 “Fi ydy e,” meddai Iesu wrthi, “yr un sy’n siarad â ti.”

Cwestiynau

Cwestiwn 1

Pam fod y wraig yn synnu fod Iesu yn siarad gyda hi?

Cwestiwn 2

Sut wyt ti’n meddwl roedd y wraig yn teimlo wrth weld fod Iesu yn gwybod cymaint amdani?

Cwestiwn 3

Pa obaith sydd yng ngeiriau Iesu i’r wraig yma a’i phobl?

Gweddi:

Dad, maddau ni am ein holl bechodau – rhai mawr, rhai bach a rhai cuddiedig. Diolch cymaint dy fod
ti’n ein caru ni ac yn ein galw ni i fod yn rhan o dy deulu er dy fod ti’n ein hadnabod ni ac yn gweld
pob pechod sydd yn ein calonnau. Amen.

Want to know more?