
5 Wrth i Iesu fynd i mewn i Capernaum, daeth swyddog milwrol Rhufeinig ato yn pledio arno i’w helpu. 6 “Arglwydd,” meddai, “mae ngwas i gartref, yn gorwedd yn ei wely wedi’i barlysu. Mae’n dioddef yn ofnadwy.”
7 Atebodd Iesu, “Dof i’w iacháu.”
8 Ond meddai’r swyddog wrtho, “Arglwydd, dw i ddim yn deilwng i ti ddod i mewn i nhŷ i. Does ond rhaid i ti ddweud a bydd fy ngwas yn cael ei iacháu. 9 Mae swyddogion uwch fy mhen i yn rhoi gorchmynion i mi, ac mae gen innau filwyr odanaf fi. Dw i’n dweud ‘Dos’ wrth un, ac mae’n mynd; ‘Tyrd yma’ wrth un arall ac mae’n dod. Dw i’n dweud ‘Gwna hyn’ wrth fy ngwas, ac mae’n ei wneud.”
10 Roedd Iesu wedi’i syfrdanu pan glywodd beth ddwedodd y dyn. Meddai wrth y rhai oedd yn ei ddilyn, “Wir i chi, dw i ddim wedi gweld neb o bobl Israel sydd â ffydd fel yna! 11 Dw i’n dweud wrthoch chi, bydd llawer o bobl yn dod o bob rhan o’r byd ac yn eistedd i lawr i wledda gydag Abraham, Isaac a Jacob pan ddaw’r Un nefol i deyrnasu. 12 Ond bydd ‛dinasyddion y deyrnas‛ yn cael eu taflu allan i’r tywyllwch lle bydd pobl yn wylo’n chwerw ac mewn artaith.”
13 Yna dwedodd Iesu wrth y swyddog milwrol, “Dos! Cei di beth wnest ti gredu allai ddigwydd.” A dyna’n union pryd cafodd y gwas ei iacháu.
Cwestiwn 1
Beth mae’r canwriad wedi ei ddeall am Iesu?
Cwestiwn 2
Pam fod Iesu yn ei ganmol cymaint yn adnod 10?
Cwestiwn 3
Beth yw’r rhybudd mae Iesu yn rhoi yn adnod 11-12?
Gweddi:
Dad, maddau i ni ein bod ni mor aml yn wan ein ffydd – rho ffydd i ni fel oedd gan y canwriad hwn a nertha ni i ddilyn Iesu. Amen.