Dydd Llun 20fed Ionawr

Marc 5:1-20

1 Dyma nhw’n croesi’r llyn i ardal Gerasa.  2 Wrth i Iesu gamu allan o’r cwch, dyma ddyn oedd ag ysbryd drwg ynddo yn dod ato o gyfeiriad y fynwent 3 – yno roedd yn byw, yng nghanol y beddau. Allai neb gadw rheolaeth arno, hyd yn oed drwy roi cadwyni arno. 4 Roedd yn aml yn cael ei rwymo gyda chadwyni am ei ddwylo a’i draed, ond lawer gwaith roedd wedi llwyddo i dorri’r cadwyni a dianc. Doedd neb yn gallu ei gadw dan reolaeth. 5 A dyna lle roedd, ddydd a nos, yn y fynwent ac ar y bryniau cyfagos yn sgrechian ac anafu ei hun â cherrig.

 

6 Pan welodd Iesu’n dod o bell, rhedodd i’w gyfeiriad a phlygu ar lawr o’i flaen. 7 Rhoddodd sgrech a gwaeddodd nerth ei ben, “Gad di lonydd i mi, Iesu, mab y Duw Goruchaf! Paid poenydio fi er mwyn Duw!” 8 (Roedd Iesu newydd orchymyn i’r ysbryd drwg ddod allan o’r dyn.)

 

9 Gofynnodd Iesu iddo wedyn, “Beth ydy dy enw di?” “Lleng ydw i,” atebodd, “achos mae llawer iawn ohonon ni yma.” 10 Roedden nhw’n crefu ar i Iesu i beidio’u hanfon nhw i ffwrdd o’r ardal honno.

 

11 Roedd cenfaint fawr o foch yn pori ar ochr bryn cyfagos, 12 a dyma’r ysbrydion drwg yn pledio arno, “Anfon ni i’r moch acw; gad i ni fyw ynddyn nhw.” 13 Dyma Iesu’n rhoi caniatâd iddyn nhw fynd, ac allan a’r ysbrydion drwg o’r dyn ac i mewn i’r moch. Dyma’r moch i gyd, tua dwy fil ohonyn nhw, yn rhuthro i lawr y llechwedd serth i mewn i’r llyn, a boddi.

 

14 Dyma’r rhai oedd yn gofalu am y moch yn rhedeg i ffwrdd a dweud wrth bawb ym mhobman beth oedd wedi digwydd. Pan ddaeth y bobl allan at Iesu i weld drostyn nhw eu hunain, 15 roedden nhw wedi dychryn. Dyna lle roedd y dyn oedd wedi bod yng ngafael y cythreuliaid, yn eistedd yn dawel gyda dillad amdano ac yn ei iawn bwyll. 16 Pan ddwedodd y llygad-dystion eto beth oedd wedi digwydd i’r dyn a’r moch, 17 dyma’r bobl yn mynnu fod Iesu’n gadael eu hardal.

 

18 Pan oedd Iesu ar fin mynd i mewn i’r cwch, dyma’r dyn oedd wedi bod yng ngafael y cythreuliaid yn dod ato ac erfyn am gael aros gydag e. 19 “Na,” meddai Iesu, “Dos adre at dy deulu a dywed wrthyn nhw am y cwbl mae Duw wedi’i wneud i ti, a sut mae wedi bod mor drugarog.” 20 Felly i ffwrdd â’r dyn a dechrau dweud wrth bawb yn ardal Decapolis am bopeth oedd Iesu wedi’i wneud iddo. Roedd pawb wedi’u syfrdanu.

Cwestiynau

Cwestiwn 1

Sut byset ti’n disgrifio sefyllfa y dyn yma?

Cwestiwn 2

Pa wahaniaeth mae cwrdd a Iesu wedi ei wneud ym mywyd y dyn yma?

Cwestiwn 3

Pam wyt ti’n meddwl fod ei gymdogion wedi ymateb yn y ffordd hyn?

Gweddi:

Helpa ni i weld ein angen ni Arglwydd. Diolch fod neb sydd tu hwnt i dy gyrraedd di. Rhyddha ni o unrhywbeth sy’n ein caethiwo. Amen.

Want to know more?