Dydd Mercher 22ain Ionawr

Marc 10:46-52

46 Dyma nhw’n cyrraedd Jericho. Roedd tyrfa fawr yn dilyn Iesu a’i ddisgyblion allan o’r dref, a dyma nhw’n pasio heibio dyn dall oedd yn cardota ar ochr y ffordd – Bartimeus oedd enw’r dyn (hynny ydy, ‛mab Timeus‛). 47 Pan ddeallodd mai Iesu o Nasareth oedd yno, dechreuodd weiddi, “Iesu! Fab Dafydd! Helpa fi!”

48 “Cau dy geg!” meddai rhai o’r bobl wrtho. Ond yn lle hynny dechreuodd weiddi’n uwch fyth, “Iesu! Fab Dafydd! Helpa fi!”

49 Dyma Iesu’n stopio, “Dwedwch wrtho am ddod yma,” meddai. Felly dyma nhw’n galw’r dyn dall, “Hei! Cod dy galon! Mae’n galw amdanat ti. Tyrd!” 50 Felly taflodd y dyn dall ei glogyn i ffwrdd, neidio ar ei draed a mynd at Iesu.

51 Dyma Iesu’n gofyn iddo, “Beth ga i wneud i ti?”

“Rabbwni,” atebodd y dyn dall, “Dw i eisiau gallu gweld.”

52 Yna dwedodd Iesu, “Dos, am i ti gredu rwyt wedi dy iacháu.” Yn sydyn roedd y dyn yn gweld, a dilynodd Iesu ar hyd y ffordd.

Cwestiynau

Cwestiwn 1

Beth roedd Bartimeus wedi ei “weld” am bwy yw Iesu?

Cwestiwn 2

Oes rhywbeth yn dy daro di am y ffordd mae Bartimeus yn ymateb i wahoddiad Iesu yn adnod 50?

Cwestiwn 3

Pa wahaniaeth roedd cwrdd a Iesu wedi gwneud i’w fywyd?

Gweddi:

Dduw, rydyn ni mor aml yn gallu bod yn ddall ac araf i ddeall y pethau rwyt ti am eu dangos i ni. Agor ein llygaid ni a helpa ni i dy ddilyn di. Amen.

Want to know more?