
11 ond safodd Mair wrth ymyl y bedd yn crio. Plygodd i lawr i edrych i mewn i’r bedd 12 a gweld dau angel mewn dillad gwyn yn eistedd lle roedd corff Iesu wedi cael ei roi i orwedd – un wrth y pen a’r llall wrth y traed.
13 Dyma nhw’n gofyn i Mair, “Wraig annwyl, pam wyt ti’n crio?”
“Maen nhw wedi cymryd fy Arglwydd i ffwrdd,” atebodd, “a dw i ddim yn gwybod ble maen nhw wedi mynd ag e” 14 Dyna pryd y trodd hi rownd a gweld rhywun yn sefyll yno. Iesu oedd yno, ond doedd hi ddim yn sylweddoli mai Iesu oedd e. 15 “Wraig annwyl,” meddai Iesu wrthi, “pam wyt ti’n crio? Am bwy rwyt ti’n chwilio?”
Roedd hi’n meddwl mai’r garddwr oedd e, a dwedodd, “Syr, os mai ti sydd wedi’i symud, dywed lle rwyt ti wedi’i roi e, a bydda i’n mynd i’w nôl e.”
16 Yna dyma Iesu’n dweud, “Mair.”
Trodd ato, ac meddai yn Hebraeg, “Rabbwni!” (sy’n golygu ‛Athro‛).
17 Dyma Iesu’n dweud wrthi, “Paid dal gafael ynof fi. Dw i ddim yn mynd i fyny at y Tad eto. Dos at fy mrodyr i a dweud wrthyn nhw, ‘Dw i’n mynd at fy Nhad a’m Duw, eich Tad a’ch Duw chi hefyd.’”
18 Yna aeth Mair Magdalen at y disgyblion a dweud: “Dw i wedi gweld yr Arglwydd!” A dwedodd wrthyn nhw beth oedd e wedi’i ddweud wrthi.
Cwestiwn 1
Pam fod Mair yn oedi tu allan i fedd yr Arglwydd Iesu?
Cwestiwn 2
Pam wyt ti’n meddwl doedd Mair heb adnabod Iesu yn syth?
Cwestiwn 3
Beth yw arwyddocad geiriau Iesu yn adnod 17?
Gweddi:
Dad, diolch am y gobaith sydd gennym ni yn atgyfodiad Iesu! Rho nerth i ni ddweud wrth eraill am y newyddion da hyn! Amen.