Salm o ddiolch.
1 Gwaeddwch yn uchel i’r ARGLWYDD
holl bobl y byd!
2 Addolwch yr ARGLWYDD yn llawen;
a dod o’i flaen gan ddathlu!
3 Cyffeswch mai’r ARGLWYDD sydd Dduw;
Fe ydy’r un a’n gwnaeth ni,
a ni ydy ei bobl e —
y defaid mae’n gofalu amdanyn nhw.
4 Ewch drwy’r giatiau gan ddiolch iddo,
ac i mewn i’w deml yn ei foli!
Rhowch ddiolch iddo!
A bendithio ei enw!
5 Achos mae’r ARGLWYDD mor dda!
Mae ei haelioni yn ddiddiwedd;
ac mae’n aros yn ffyddlon o un genhedlaeth i’r llall.
Cwestiwn 1
Beth mae’r Salmydd yn ei wneud yn y Salm yma?
Cwestiwn 2
Beth mae hyn yn ein dysgu am weddi?
Cwestiwn 3
Beth sydd yn dda am Dduw?
Gweddi:
Dad, diolch dy fod ti wedi ein gwneud ni a’n bod ni’n eiddo i ti. Diolch dy fod ti’n gofalu amdanom fel bugail yn gwylio ei ddefaid.
Mae’r defosiynol hwn yn edrych ar Salm
This devotion looks at a passage from Psalms