7 “Daliwch ati i ofyn a byddwch yn ei gael; chwiliwch a byddwch yn dod o hyd iddo; curwch ar y drws a bydd yn cael ei agor. 8 Mae pawb sy’n gofyn yn derbyn; pawb sy’n chwilio yn cael; ac mae’r drws yn cael ei agor i bawb sy’n curo.
9 “Pwy ohonoch chi fyddai’n rhoi carreg i’ch plentyn pan mae’n gofyn am fara? 10 Neu neidr pan mae’n gofyn am bysgodyn? 11 Felly os dych chi sy’n ddrwg yn gwybod sut i roi anrhegion da i’ch plant, mae’ch Tad yn y nefoedd yn siŵr o roi rhoddion da i’r rhai sy’n gofyn iddo!
Ai troi at Dduw yw’r peth cyntaf yr wyt yn ei wneud pan wyt ti angen rhywbeth?
Cwestiwn 3
Oes gennyt rywbeth yr hoffet ofyn i Dduw amdano ar hyn o bryd?
Gweddi:
Diolch dy fod ti’n gwrando ar ein gweddïau ac yn ein hateb ni pan fyddwn ni’n gofyn am bethau. Diolch dy fod ti’n gofalu amdanom ac eisiau clywed ein ceisiadau.