I’r arweinydd cerdd: Salm Dafydd.
1 Am faint mwy, ARGLWYDD?
Wyt ti’n mynd i’m diystyru i am byth?
Am faint mwy rwyt ti’n mynd i droi cefn arna i?
2 Am faint mwy mae’n rhaid i mi boeni f’enaid,
a dal i ddioddef fel yma bob dydd?
Am faint mwy mae’r gelyn i gael y llaw uchaf?
3 Edrych arna i!
Ateb fi, O ARGLWYDD, fy Nuw!
Adfywia fi,
rhag i mi suddo i gwsg marwolaeth;
4 rhag i’r gelyn ddweud, “Dw i wedi ennill!”
ac i’r rhai sy’n fy nghasáu ddathlu wrth i mi syrthio.
5 Ond na, dw i’n trystio dy fod ti’n ffyddlon!
Bydda i’n gorfoleddu am dy fod wedi f’achub i.
Bydda i’n canu mawl i ti, ARGLWYDD,
am achub fy ngham.
Cwestiwn 1
Wyt ti’n synnu ar agwedd Dafydd yn adnodau 1 a 2?
Cwestiwn 2
Beth yw agwedd Dafydd erbyn diwedd y Salm?
Cwestiwn 3
A yw’r Salm hon yn dy annog i weddïo ac ymddiried yn Nuw hyd yn oed pan nad wyt yn teimlo fod Duw yn gwrando arnat?
Beth am ddefnyddio’r Salm yma fel patrwm i weddïo ar yr adegau yna?
Gweddi:
Diolch i ti, Dad, y gallaf fod yn onest â chi am fy nheimladau. Diolch dy fod ti’n gwrando ar fy ngweddïau.
Mae’r defosiynol hwn yn edrych ar Salm
This devotion looks at a passage from Psalms