Dydd Llun 10fed Chwefror

Hebreaid 4:14-5:10

14 Felly gadewch i ni ddal ein gafael yn beth dŷn ni’n gredu. Mae gynnon ni Archoffeiriad gwych! – Iesu, Mab Duw, sydd wedi mynd i mewn at Dduw i’r nefoedd. 15 Ac mae’n Archoffeiriad sy’n deall yn iawn mor wan ydyn ni. Mae wedi cael ei demtio yn union yr un fath â ni, ond heb bechu o gwbl. 16 Felly gadewch i ni glosio at orsedd Duw yn hyderus. Mae Duw mor hael! Bydd yn trugarhau wrthon ni ac yn rhoi popeth sydd ei angen i ni pan mae angen help arnon ni.

1 Mae pob archoffeiriad yn cael ei ddewis i wasanaethu Duw ar ran pobl eraill. Mae wedi’i benodi i gyflwyno rhoddion gan bobl i Dduw, ac i aberthu dros eu pechodau nhw. 2 Mae’n gallu bod yn sensitif wrth ddelio gyda phobl sydd ddim yn sylweddoli eu bod nhw wedi pechu ac wedi cael eu camarwain. Dyn ydy yntau hefyd, felly mae’n ymwybodol o’i wendidau ei hun. 3 Dyna pam mae’n rhaid iddo gyflwyno aberthau dros ei bechodau ei hun yn ogystal â phechodau’r bobl.Croes 4 Does neb yn gallu dewis bod yn Archoffeiriad ohono’i hun; rhaid iddo fod wedi’i alw gan Dduw, yn union yr un fath ag Aaron.Croes

 

5 Wnaeth y Meseia ei hun ddim ceisio’r anrhydedd o fod yn Archoffeiriad chwaith. Duw wnaeth ei ddewis e, a dweud wrtho,

“Ti ydy fy Mab i;

heddiw des i’n dad i ti.”

 

6 Ac yn rhywle arall mae’n dweud,

“Rwyt ti’n offeiriad am byth,

yr un fath â Melchisedec.” 

 

7 Pan oedd yn byw ar y ddaear, buodd Iesu’n gweddïo gan alw’n daer ac wylo wrth bledio ar Dduw am gael ei achub rhag marw. A dyma Duw’n gwrando arno am ei fod wedi ymostwng yn llwyr iddo. 8 Ond er ei fod yn Fab Duw, roedd rhaid iddo ddysgu bod yn ufudd drwy beth wnaeth e ddioddef. 9 Ac ar ôl iddo wneud popeth roedd ei angen, dyma achubiaeth dragwyddol yn tarddu ohono i bawb sy’n ufudd iddo. 10 Cafodd ei benodi gan Dduw yn archoffeiriad “yr un fath â Melchisedec.”

Cwestiynau

Cwestiwn 1

Pwy yw’r archoffeiriad mawr?

Cwestiwn 2

Pan fyddwn yn gweddïo pa hyder sydd gennym fod Duw yn gwrando arnom?

Cwestiwn 3

Pam fod Iesu’n gallu cydymdeimlo gyda thi?

Gweddi:

Diolch i ti Dad, ein bod ni’n gallu mynd at orsedd Duw yn hyderus a’n bod ni’n derbyn gras a thrugaredd.

Want to know more?