19 Felly, ffrindiau annwyl, gallwn bellach fynd i mewn i’r ‛Lle Mwyaf Sanctaidd‛ yn y nefoedd, am fod gwaed Iesu wedi’i dywallt yn aberth. 20 Dyma’r ffordd newydd sydd wedi’i hagor i ni drwy’r llen (am fod Iesu wedi aberthu ei gorff ei hun) – y ffordd i fywyd! 21 Mae gynnon ni’r Meseia, yn archoffeiriad gwych gydag awdurdod dros deulu Duw. 22 Felly gadewch i ni glosio at Dduw gyda hyder didwyll, a’i drystio fe’n llwyr. Mae’n cydwybod euog ni wedi’i glanhau drwy i’w waed gael ei daenellu arnon ni, a dŷn ni wedi’n golchi â dŵr glân.Croes23 Felly gadewch i ni ddal gafael yn y gobaith dŷn ni’n ddweud sydd gynnon ni. Mae Duw yn siŵr o wneud beth mae wedi’i addo! 24 A gadewch i ni feddwl am ffyrdd i annog ein gilydd i ddangos cariad a gwneud daioni. 25 Mae’n bwysig ein bod yn dal ati i gyfarfod â’n gilydd. Mae rhai pobl wedi stopio gwneud hynny. Dylen ni annog a rhybuddio’n gilydd drwy’r adeg; yn arbennig am fod Iesu’n dod yn ôl i farnu yn fuan.