
10 Dyma’r peth olaf sydd i’w ddweud: Byddwch yn gryf, a chael eich nerth gan yr Arglwydd a’r pŵer aruthrol sydd ganddo fe. 11 Mae Duw wedi paratoi arfwisg i chi ei gwisgo yn y frwydr. Byddwch chi’n gallu gwneud safiad yn erbyn triciau slei y diafol. 12 Dŷn ni ddim yn ymladd yn erbyn pobl. Mae’n brwydr ni yn erbyn y bodau ysbrydol sy’n llywodraethu, sef yr awdurdodau a’r pwerau tywyll sy’n rheoli’r byd yma; y fyddin ysbrydol ddrwg yn y byd nefol. 13 Felly gwisgwch yr arfwisg mae Duw’n ei rhoi i chi, er mwyn i chi ddal eich tir pan fydd pethau’n ddrwg, a dal i sefyll ar ddiwedd y frwydr. 14 Safwch gyda gwirionedd wedi’i rwymo fel belt am eich canol, cyfiawnder Duw yn llurig amdanoch, 15 a’r brwdfrydedd i rannu’r newyddion da am heddwch gyda Duw yn esgidiau ar eich traed. 16 Daliwch eich gafael yn nharian ffydd bob amser – byddwch yn gallu diffodd saethau tanllyd yr un drwg gyda hi. 17 Derbyniwch achubiaeth yn helmed ar eich pen, a newyddion da Duw, sef cleddyf yr Ysbryd, yn arf yn eich llaw. 18 A beth bynnag ddaw, gweddïwch bob amser fel mae’r Ysbryd yn arwain. Cadwch yn effro, a dal ati i weddïo’n daer dros bobl Dduw i gyd.
19 A gweddïwch drosto i hefyd. Gweddïwch y bydd Duw’n rhoi’r geiriau iawn i mi bob tro bydda i’n agor fy ngheg, er mwyn i mi rannu dirgelwch y newyddion da yn gwbl ddi-ofn. 20 Llysgennad y Meseia Iesu ydw i, mewn cadwyni am gyhoeddi ei neges. Gweddïwch y bydda i’n dal ati i wneud hynny’n gwbl ddi-ofn, fel y dylwn i wneud!
Cwestiwn 1
Beth yw ein sefyllfa fel Cristnogion?
Cwestiwn 2
Pam ei bod yn bwysig i ni weddïo yn ein sefyllfa ni?
Cwestiwn 3
Beth mae’r darnau gwahanol o’r arfwisg yn ei wneud?
Gweddi:
Dad, diolch dy fod ti wedi rhoi’r arfwisg lawn i ni ei gwisgo. Helpa ni i wisgo arfwisg Duw!