Dydd Llun 24ain Chwefror

Daniel 6

1 Dyma Dareius yn penderfynu rhannu’r deyrnas gyfan yn gant dau ddeg o daleithiau, a phenodi pennaeth ar bob un. 2 Byddai penaethiaid y taleithiau yma yn atebol i dri comisiynydd, ac roedd Daniel yn un o’r rheiny. Y tri comisiynydd oedd yn gofalu am bethau ar ran y brenin. 3 Yn fuan iawn daeth hi’n amlwg fod Daniel yn llawer mwy galluog na’r comisiynwyr eraill a phenaethiaid y taleithiau i gyd – roedd ganddo allu cwbl anarferol. Yn wir, roedd y brenin yn bwriadu rhoi’r deyrnas i gyd dan ei ofal. 4 O ganlyniad i hynny roedd y comisiynwyr eraill a phenaethiaid y taleithiau eisiau ffeindio bai ar y ffordd roedd Daniel yn delio gyda gweinyddiaeth y deyrnas. Ond roedden nhw’n methu dod o hyd i unrhyw sgandal na llygredd. Roedd Daniel yn gwbl ddibynadwy. Doedd dim tystiolaeth o unrhyw esgeulustod na thwyll. 5 “Does gynnon ni ddim gobaith dod â cyhuddiad yn erbyn y Daniel yma, oni bai ein bod yn dod o hyd i rywbeth sy’n gysylltiedig â chyfraith ei Dduw,” medden nhw. 6 Felly dyma’r comisiynwyr a phenaethiaid y taleithiau yn cynllwynio gyda’i gilydd, ac yn mynd at y brenin a dweud wrtho, “Frenin Dareius, bydd fyw am byth! 7 Mae comisiynwyr y deyrnas, yr uchel-swyddogion, penaethiaid y taleithiau, a chynghorwyr y brenin, a’r llywodraethwyr yn meddwl y byddai’n syniad da i’r brenin wneud cyfraith newydd yn gorchymyn fel hyn: ‘Am dri deg diwrnod mae pawb i weddïo arnoch chi, eich mawrhydi. Os ydy rhywun yn gweddïo ar unrhyw dduw neu ar unrhyw berson arall, bydd yn cael ei daflu i ffau’r llewod.’ 8 Felly, eich mawrhydi, cyhoeddwch y gwaharddiad ac arwyddo’r ddogfen, fel ei bod yn gwbl amhosib i’w newid. Bydd yn rhan o gyfraith Media a Persia, sy’n aros, a byth i gael ei newid.” 9 Felly dyma’r Brenin Dareius yn arwyddo’r gwaharddiad.

 

10 Pan glywodd Daniel fod y gyfraith yma wedi’i harwyddo, aeth adre, a mynd ar ei liniau i weddïo fel roedd wedi gwneud bob amser. Roedd ganddo ystafell i fyny’r grisiau, a’i ffenestri’n agor i gyfeiriad Jerwsalem. Dyna lle roedd yn mynd dair gwaith bob dydd i weddïo ar Dduw a diolch iddo. 11 Dyma’r dynion oedd wedi cynllwynio gyda’i gilydd yn mynd i dŷ Daniel, a’i gael yno’n gweddïo ac yn gofyn i Dduw am help. 12 Felly dyma nhw’n mynd yn ôl at y brenin, ac yn ei atgoffa am y gwaharddiad. “Wnaethoch chi ddim arwyddo cyfraith yn gwahardd pobl am dri deg diwrnod rhag gweddïo ar unrhyw dduw na neb arall ond chi eich hun, eich mawrhydi? Ac yn dweud y byddai unrhyw un sy’n gwneud hynny yn cael ei daflu i’r llewod?” “Do, yn bendant,” meddai’r brenin. “Mae bellach yn rhan o gyfraith Media a Persia, sydd byth i gael ei newid.”

 

13 Yna dyma nhw’n dweud wrth y brenin, “Dydy’r dyn Daniel yna, oedd yn un o’r caethion o Jwda, yn cymryd dim sylw ohonoch chi na’ch gwaharddiad eich mawrhydi. Mae’n dal ati i weddïo ar ei Dduw dair gwaith bob dydd.” 14 Pan glywodd y brenin hyn, doedd e ddim yn hapus o gwbl. Roedd yn ceisio meddwl am ffordd i achub Daniel. Buodd wrthi drwy’r dydd yn ceisio meddwl am ffordd y gallai ei helpu. 15 Ond gyda’r nos dyma’r dynion yn mynd yn ôl gyda’i gilydd at y brenin, ac yn dweud wrtho, “Cofiwch, eich mawrhydi, fod y gwaharddiad yn rhan o gyfraith Media a Persia. Dydy cyfraith sydd wedi cael ei harwyddo gan y brenin byth i gael ei newid.”

 

16 Felly dyma’r brenin yn gorchymyn dod â Daniel ato, a’i fod i gael ei daflu i ffau’r llewod. Ond meddai’r brenin wrth Daniel, “Bydd dy Dduw, yr un rwyt ti’n ei addoli mor ffyddlon, yn dy achub di.” 17 Cafodd carreg fawr ei rhoi dros geg y ffau, a dyma’r brenin yn gosod ei sêl arni gyda’i fodrwy, a’i uchel-swyddogion yr un fath, fel bod dim modd newid tynged Daniel. 18 Yna dyma’r brenin yn mynd yn ôl i’w balas. Wnaeth e fwyta dim byd y noson honno. Gwrthododd gael ei ddifyrru, ac roedd yn methu’n lân a chysgu drwy’r nos. 19 Pan oedd hi’n dechrau gwawrio’r bore wedyn dyma’r brenin yn brysio yn ôl at ffau’r llewod, 20 ac wrth agosáu at y ffau dyma fe’n galw ar Daniel mewn llais pryderus, “Daniel! Gwas y Duw byw. Ydy’r Duw wyt ti’n ei addoli mor ffyddlon wedi gallu dy achub di rhag y llewod?”

 

21 A dyma Daniel yn ateb, “O frenin! Boed i chi fyw am byth! 22 Ydy, mae fy Nuw wedi anfon ei angel i gau cegau’r llewod, a dŷn nhw ddim wedi mrifo i o gwbl. Achos roeddwn i’n ddieuog yng ngolwg Duw – ac yn eich golwg chi hefyd, eich mawrhydi. Wnes i ddim drwg i chi.” 23 Roedd y brenin wrth ei fodd, a dyma fe’n gorchymyn codi Daniel allan o’r ffau. Dyma nhw’n gwneud hynny, a doedd e ddim mymryn gwaeth, am ei fod wedi trystio’i Dduw. 24 Wedyn, dyma’r brenin yn gorchymyn fod y dynion oedd wedi ymosod mor giaidd ar Daniel yn cael eu harestio, a’u taflu i ffau’r llewod – a’u gwragedd a’u plant gyda nhw. Cyn iddyn nhw gyrraedd gwaelod y ffau roedd y llewod arnyn nhw ac wedi’u rhwygo nhw’n ddarnau.

 

25 Dyma’r brenin Dareius yn ysgrifennu at y bobl i gyd, o bob gwlad ac iaith – pawb drwy’r byd i gyd: “Heddwch a llwyddiant i chi i gyd! 26 Dw i’n cyhoeddi fod pawb sy’n byw o fewn ffiniau’r deyrnas dw i’n frenin arni, i ofni a pharchu Duw Daniel.

 

Fe ydy’r Duw byw ac mae e gyda ni bob amser!

Fydd ei deyrnas byth yn syrthio,

a bydd ei awdurdod yn aros am byth.

27 Mae e’n achub ei bobl ac yn gwneud gwyrthiau rhyfeddol

yn y nefoedd ac ar y ddaear.

Mae wedi achub Daniel o afael y llewod!”

 

 

28 Felly roedd Daniel yn llwyddiannus iawn yn ystod teyrnasiad Dareius, sef Cyrus o Persia.

Cwestiynau

Cwestiwn 1

Sut byddet ti yn ymateb pe byddet yn cael dy wahardd rhag gweddïo? Sut mae Daniel yn ymateb?

Cwestiwn 2

Pan mae pethau’n anodd arnom ni, ydyn ni dal yn gallu troi at Dduw a diolch iddo?

Cwestiwn 3

Sut wyt ti’n ymdopi pan mae pethau’n anodd? Wyt ti’n ymddiried yn Nuw fel gwnaeth Daniel
yn ffau’r llewod?

Gweddi:

Dad, diolch dy fod ti’n gwrando arnom ac yn ein hateb. Diolch dy fod ti’n gallu dod atat ti gyda’m tristwch, fy ofn, fy mhryderon a byddi di’n rhoi heddwch i mi. 

Want to know more?