Dydd Mawrth 25ain Chwefror

Salm 65

I’r arweinydd cerdd: Salm Dafydd. Cân.

1 Safwn yn dawel, a dy addoli yn Seion, O Dduw;

a chyflawni’n haddewidion i ti.

2 Ti sy’n gwrando gweddïau,

boed i bob person byw ddod atat ti!

3 Pan mae’n holl bechodau yn ein llethu ni,

rwyt ti’n maddau’r gwrthryfel i gyd.

4 Y fath fendith sydd i’r rhai rwyt ti’n eu dewis,

a’u gwahodd i dreulio amser yn iard dy deml.

Llenwa ni â bendithion dy dŷ,

sef dy deml sanctaidd!

 

5 Ti’n gwneud pethau syfrdanol i wneud pethau’n iawn,

a’n hateb O Dduw, ein hachubwr.

Mae pobl drwy’r byd i gyd,

ac ymhell dros y môr, yn dibynnu arnat ti.

6 Ti, yn dy nerth, roddodd y mynyddoedd yn eu lle;

Rwyt ti mor gryf!

7 Ti sy’n tawelu’r môr stormus,

a’i donnau gwyllt,

a’r holl bobloedd sy’n codi terfysg.

8 Mae pobl ym mhen draw’r byd

wedi eu syfrdanu gan dy weithredoedd.

O’r dwyrain i’r gorllewin

maen nhw’n gweiddi’n llawen.

 

9 Ti’n gofalu am y ddaear, yn ei dyfrio

a’i gwneud yn hynod ffrwythlon.

Mae’r sianel ddwyfol yn gorlifo o ddŵr!

Ti’n rhoi ŷd i bobl

drwy baratoi’r tir fel yma.

10 Ti’n socian y cwysi

ac mae dŵr yn llifo i’r rhychau.

Ti’n mwydo’r tir â chawodydd,

ac yn bendithio’r cnwd sy’n tyfu.

11 Dy ddaioni di sy’n coroni’r flwyddyn!

Mae dy lwybrau’n diferu digonedd!

12 Mae hyd yn oed porfa’r anialwch yn diferu.

a’r bryniau wedi eu gwisgo â llawenydd!

13 Mae’r caeau wedi eu gorchuddio gyda defaid a geifr,

a’r dyffrynnoedd yn gwisgo mantell o ŷd.

Maen nhw’n gweiddi ac yn canu’n llawen.

Cwestiynau

Cwestiwn 1

Beth mae Dafydd yn ei wneud yn y Salm yma?

Cwestiwn 2

Ym mha ffyrdd mae Duw’n dangos ei nerth?

Cwestiwn 3

Edrych ar adnod 2. Wyt ti’n credu’r Salmydd pan mae’n dweud fod Duw yn gwrando gweddi?

Meddwl a diolch i Dduw am y ffordd mae’n dy gynnal di.

Gweddi:

Helpa fi i weld dy nerth. Diolch dy fod ti’n gofalu amdanaf ac yn gwrando arnaf.

Want to know more?