
25 Roedden nhw wedi bod yn archwilio’r wlad am bedwar deg diwrnod. 26 A dyma nhw’n mynd yn ôl i Cadesh yn anialwch Paran, at Moses ac Aaron a phobl Israel. A dyma nhw’n dweud wrth y bobl beth roedden nhw wedi’i weld, ac yn dangos y ffrwyth roedden nhw wedi ei gario yn ôl. 27 Dyma nhw’n dweud wrth Moses, “Aethon ni i’r wlad lle gwnest ti’n hanfon ni. Mae’n dir ffrwythlon – tir lle mae llaeth a mêl yn llifo! A dyma beth o’i ffrwyth. 28 Ond mae’r bobl sy’n byw yno yn gryfion, ac maen nhw’n byw mewn trefi caerog mawr. Ac yn waeth na hynny, mae disgynyddion Anac yn byw yno. 29 Mae’r Amaleciaid yn byw yn y Negef, yr Hethiaid, Jebwsiaid ac Amoriaid yn byw yn y bryniau, a’r Canaaneaid yn byw ar yr arfordir ac ar lan afon Iorddonen.”
30 Ond yna dyma Caleb yn galw ar y bobl oedd yno gyda Moses i fod yn dawel. “Gadewch i ni fynd, a chymryd y wlad! Gallwn ni ei choncro!” 31 Ond dyma’r dynion eraill oedd wedi mynd i archwilio’r wlad yn dweud, “Na, allwn ni ddim ymosod ar y bobl yno. Maen nhw’n llawer rhy gryf i ni!” 32 A dyma nhw’n rhoi adroddiad gwael i bobl Israel, “Byddwn ni’n cael ein llyncu gan bobl y wlad buon ni’n edrych arni. Mae’r bobl welon ni yno yn anferth! 33 Roedd yno gewri, sef disgynyddion Anac. Roedden ni’n teimlo’n fach fel pryfed wrth eu hymyl nhw, a dyna sut roedden nhw’n ein gweld ni hefyd!”
Cwestiwn 1
Beth yw pwyslais yr ysbiwyr (heblaw am Caleb) wrth ddisgrifio’r wlad?
Cwestiwn 2
Sut mae barn Caleb yn wahanol?
Cwestiwn 3
Caiff Caleb ei ganmol yn y Beibl am fod yn berson oedd yn gweld y cyfle roedd
Duw’n ei roi yn hytrach na’r problemau. Oes sefyllfa yn dy fywyd lle rwyt ti angen persbectif Duw, nid dy bersbectif di? Wyt ti’n barod i gamu allan dros Dduw neu wneud esgusodion fel yr ysbiwyr?
Gweddi:
Gweddïa am bersbectif duwiol yn hytrach na dynol ar dy sefyllfa heddiw. Diolcha bod Duw yn fwy na unrhyw
broblem rwyt ti’n ei wynebu.