
1 Dyma bawb yn torri allan i grio’n uchel. Roedden nhw’n crio drwy’r nos. 2 Dyma bobl Israel yn dechrau cwyno a throi yn erbyn Moses ac Aaron. “Byddai’n well petaen ni wedi marw yn yr Aifft, neu hyd yn oed yn yr anialwch yma!” medden nhw. 3 “Pam mae’r ARGLWYDD wedi dod â ni i’r wlad yma i gael ein lladd yn y frwydr? Bydd ein gwragedd a’n plant yn cael eu cymryd yn gaethion! Fyddai ddim yn well i ni fynd yn ôl i’r Aifft?” 4 A dyma nhw’n dweud wrth ei gilydd, “Gadewch i ni ddewis rhywun i’n harwain ni, a mynd yn ôl i’r Aifft.”
5 Dyma Moses ac Aaron yn plygu gyda’u hwynebau ar lawr. Gwnaethon nhw hyn o flaen pobl Israel i gyd, oedd wedi dod at ei gilydd. 6 Yna dyma ddau o’r arweinwyr oedd wedi bod yn archwilio’r wlad – sef Josua fab Nwn a Caleb fab Jeffwnne – yn rhwygo’u dillad. 7 A dyma nhw’n dweud wrth bobl Israel, “Mae’r wlad buon ni’n edrych arni yn wlad fendigedig! 8 Os ydy’r ARGLWYDD yn hapus gyda ni, bydd yn mynd â ni yno ac yn rhoi’r wlad i ni. Mae’n dir ffrwythlon – tir lle mae llaeth a mêl yn llifo. 9 Felly, peidiwch gwrthryfela yn erbyn yr ARGLWYDD! A pheidiwch bod ag ofn y bobl sy’n byw yn y wlad. Ni fydd yn eu bwyta nhw! Does ganddyn nhw ddim gobaith! Mae’r ARGLWYDD gyda ni! Felly peidiwch bod â’u hofn nhw.” 10 Erbyn hyn, roedd y bobl yn bygwth lladd Josua a Caleb drwy daflu cerrig atyn nhw. Ond yna dyma ysblander yr ARGLWYDD yn dod i’r golwg uwchben pabell presenoldeb Duw. (Gwelodd pobl Israel i gyd hyn.) 11 A dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Am faint mae’r bobl yma’n mynd i’m dirmygu i? Ydyn nhw byth yn mynd i gredu yno i, ar ôl yr holl arwyddion gwyrthiol maen nhw wedi’u gweld? 12 Dw i wedi cael digon! Dw i’n mynd i anfon haint i’w dinistrio nhw! A bydda i’n gwneud dy ddisgynyddion di yn bobl fwy a chryfach na fuon nhw erioed.”
13 A dyma Moses yn dweud wrth yr ARGLWYDD, “Ond wedyn bydd pobl yr Aifft yn clywed am y peth! Ti ddefnyddiodd dy nerth i ddod â’r bobl allan oddi wrthyn nhw. 14 Byddan nhw’n dweud am y peth wrth bobl y wlad dŷn ni’n mynd iddi. ARGLWYDD, maen nhw wedi clywed dy fod ti gyda’r bobl yma. Maen nhw’n gwybod fod y bobl yma wedi dy weld di gyda’u llygaid eu hunain, bod dy gwmwl di yn hofran uwch eu pennau, a dy fod ti’n eu harwain nhw mewn colofn o niwl yn y dydd a cholofn o dân yn y nos. 15 Os gwnei di ladd y bobl yma i gyd gyda’i gilydd, bydd y gwledydd sydd wedi clywed amdanat ti’n dweud, 16 ‘Doedd yr ARGLWYDD ddim yn gallu arwain y bobl i’r wlad roedd e wedi’i haddo iddyn nhw, felly dyma fe’n eu lladd nhw yn yr anialwch!’ 17 Felly, fy Meistr, dangos mor gryf wyt ti. Rwyt ti wedi dweud, 18 ‘Mae’r ARGLWYDD mor amyneddgar ac mae ei haelioni yn anhygoel. Mae’n maddau beiau a gwrthryfel. Ond dydy e ddim yn gadael i’r euog fynd heb ei gosbi. Mae pechodau pobl yn gadael eu hôl ar y plant am dair neu bedair cenhedlaeth.’ 19 Plîs wnei di faddau drygioni’r bobl yma? Mae dy gariad ffyddlon mor fawr, ac rwyt ti wedi bod yn maddau iddyn nhw ers iddyn nhw ddod o’r Aifft.”
Cwestiwn 1
Er gwrthwynebiad y bobl yn erbyn Duw a Moses, mae Josua a Caleb yn sefyll yn gadarn dros yr hyn oedd yn iawn ac yn ceisio eu perswadio i ddychwelyd i ffordd Dduw. Pa agweddau o gymeriad Duw maent yn ei nodi yn ad. 8-9?
Cwestiwn 2
Beth mae agwedd Caleb a Josua yn ein dysgu ni am bwysigrwydd sefyll yn gadarn dros y gwir?
Cwestiwn 3
Wyt ti mewn sefyllfa debyg? Pa agweddau o gymeriad Duw gall dy annog di?
Gweddi:
Gweddïa am nerth gan Dduw i drystio Fe, a nerth i sefyll yn gadarn dros yr hyn sydd yn gywir a gwir. Diolch bod
Duw gyda ni ac yn ein hamddiffyn.