
1 Ydyn ni’n dechrau canmol ein hunain o’ch blaen chi unwaith eto? Yn wahanol i rai, does arnon ni ddim angen tystlythyr i’w gyflwyno i chi, a dyn ni ddim yn gofyn i chi ysgrifennu un i ni chwaith. 2 Chi eich hunain ydy’n tystlythyr ni! Llythyr sydd wedi ei ysgrifennu ar ein calonnau ni, ac mae pawb ym mhobman yn gwybod amdano ac yn gallu ei ddarllen. 3 Yn wir, mae’n amlwg mai llythyr gan y Meseia ei hun ydych chi — a’i fod wedi ei roi yn ein gofal ni. Llythyr sydd ddim wedi ei ysgrifennu ag inc, ond ag Ysbryd y Duw byw. A ddim ar lechi carreg, ond ar lechi calonnau pobl! 4 Beth mae’r Meseia wedi ei wneud sy’n ein gwneud ni mor hyderus o flaen Duw. 5 Dyn ni ddim yn deilwng ynon ni’n hunain i hawlio’r clod am ddim byd — Duw sy’n ein gwneud ni’n deilwng. 6 Mae wedi’n gwneud ni’n deilwng i wasanaethu’r ymrwymiad newydd wnaeth e. Nid cyfraith ysgrifenedig ydy hon, ond ymrwymiad Duw gafodd ei roi gan yr Ysbryd Glân. Mae ceisio cadw at lythyren y ddeddf yn lladd, ond mae’r Ysbryd yn rhoi bywyd.
Cwestiwn 1
Mae’n siŵr mai Paul yw’r cenhadwr Cristnogol mwyaf enwog erioed ond yma fe’i gwelwn yn dweud nad yw’n ddigonol ohono’i hun i honni unrhywbeth. O ble roedd Paul yn cael ei hyder?
Cwestiwn 2
Os mai dyna oedd agwedd Paul, beth ddylai ein hagwedd ni fod tuag at ein doniau a’n gallu?
Cwestiwn 3
Beth fyddai’n ei olygu i ti i roi dy hyder yn Nuw yn hytrach nag yn dy allu dy hunan heddiw?
Gweddi:
Gweddïa am barodrwydd a chyfle i ddefnyddio’r doniau mae Duw wedi rhoi i ti a rho glod a diolch i Dduw amdanynt.