Dydd Iau 20 Mawrth

2 Corinthiaid 3:7-18

7 Er bod yr hen drefn (gafodd ei naddu ar garreg) yn arwain i farwolaeth, cafodd ei rhoi gyda’r fath ysblander! Roedd yr Israeliaid yn methu edrych ar wyneb Moses am ei fod yn disgleirio! (Ond roedd yn pylu wrth i amser fynd yn ei flaen).Croes 8 Felly beth am drefn newydd yr Ysbryd? Oni fydd hi’n dod gydag ysblander llawer iawn mwy rhyfeddol? 9 Os oedd y drefn sy’n arwain i farn yn wych, meddyliwch mor anhygoel o wych fydd y drefn newydd sy’n dod â ni i berthynas iawn gyda Duw! 10 Yn wir, dydy beth oedd yn ymddangos mor rhyfeddol ddim yn edrych yn rhyfeddol o gwbl bellach, am fod ysblander y drefn newydd yn disgleirio gymaint mwy llachar! 11 Ac os oedd y drefn oedd yn pylu yn rhyfeddol, meddyliwch mor ffantastig ydy ysblander y drefn sydd i aros! 12 Gan mai dyma dyn ni’n edrych ymlaen ato, dyn ni’n gallu cyhoeddi’n neges yn gwbl hyderus. 13 Dyn ni ddim yr un fath â Moses, yn rhoi gorchudd dros ei wyneb rhag i bobl Israel syllu arno a gweld fod y disgleirdeb yn diflannu yn y diwedd. 14 Ond doedden nhw ddim yn gweld hynny! Ac mae’r un gorchudd yn dal yno heddiw pan mae geiriau’r hen drefn yn cael eu darllen. Dim ond y Meseia sy’n gallu cael gwared â’r gorchudd! 15 Ond hyd heddiw, pan mae Cyfraith Moses yn cael ei darllen mae’r gorchudd yn dal yna yn eu dallu nhw. 16 Ac eto’r Gyfraith ei hun sy’n dweud, “Pan mae’n troi at yr Arglwydd, mae’r gorchudd yn cael ei dynnu i ffwrdd.” 17 Cyfeirio at yr Ysbryd Glân mae’r gair ‘Arglwydd’; a ble bynnag mae Ysbryd yr Arglwydd mae yna ryddid. 18 Felly does dim angen gorchudd ar ein hwynebau ni. Dyn ni i gyd fel drych yn adlewyrchu ysblander yr Arglwydd, ac yn cael ein newid i fod yn debycach iddo. Dyn ni’n troi’n fwy a mwy disglair o hyd. A’r Ysbryd Glân ydy’r Arglwydd sy’n gwneud hyn i gyd.

Cwestiynau

Cwestiwn 1

Pa wahaniaeth mae adnabod Iesu Grist yn ei wneud i’n dealltwriaeth ni ohono Fe ac o’r Beibl?

Cwestiwn 2

Beth yw rôl yr Ysbryd Glân ym mywyd y Cristion (ad. 17-18)?

Cwestiwn 3

Wyt ti’n teimlo ‘ar goll’ weithiau wrth ddarllen y Beibl neu wrth fyw bywyd fel Cristion? Gweddïa y bydd yr Ysbryd yn tynnu unrhyw orchudd i ffwrdd o dy lygaid a’th ryddhau i weld mwy o Iesu Grist.

Gweddi:

Gweddïa y byddi di’n dod i nabod a charu Iesu Grist yn fwy bob dydd. Diolch am yr Ysbryd Glân.

Want to know more?