
1 Felly gan fod Duw wedi bod mor garedig â rhoi’r gwaith yma’n ein gofal ni, dyn ni ddim yn digalonni. 2 Dyn ni wedi gwrthod pob dull cudd a dan din o weithredu. Wnawn ni ddim twyllo neb na gwyrdroi neges Duw. Dyn ni’n dweud yn blaen beth ydy’r gwir, ac mae pawb yn gwybod eu bod nhw’n gallu’n trystio ni fel rhai sy’n gwbl agored o flaen Duw. 3 Os oes rhai pobl sy’n methu deall y newyddion da dyn ni’n ei gyhoeddi, y bobl sy’n mynd i ddistryw ydy’r rheiny. 4 Y diafol (‘duw’ y byd hwn) sydd wedi dallu’r rhai sydd ddim yn credu. Does ganddo fe ddim eisiau iddyn nhw ddeall y newyddion da, na gweld ysblander y Meseia sy’n dangos i ni yn union sut un ydy Duw. 5 Dyn ni ddim yn siarad amdanon ni’n hunain — dim ond cyhoeddi mai Iesu y Meseia ydy’r Arglwydd. Ein lle ni ydy eich gwasanaethu chi ar ran Iesu. 6 Ac mae’r Duw ddwedodd, “Dw i eisiau i olau ddisgleirio allan o’r tywyllwch,” wedi’n goleuo ni a’n galluogi ni i ddangos fod ysblander Duw ei hun yn disgleirio yn wyneb Iesu y Meseia.
Cwestiwn 1
Sut mae cofio am drugaredd Duw yn ein stopio ni rhag digalonni (ad. 1)?
Cwestiwn 2
Dywed Paul fod yn rhaid i Gristnogion fyw yn y goleuni a throi cefn ar ‘ffyrdd dirgel a chywilyddus’. Beth mae hyn yn ei olygu i ti heddiw? Pa fath o ymddygiad sydd yn rhaid i ti droi cefn arno?
Cwestiwn 3
Pam fod Paul yn dweud fod rhai pobl heb ddeall yr efengyl (ad. 3-6)? Beth yw ein cyfrifoldeb ni?
Gweddi:
Gweddïa am faddeuant am y pethau drwg ti’n ei wneud a gofynna am gymorth i droi cefn arnynt. Diolch i Dduw am ei drugaredd unwaith eto. .