Dydd Llun 24 Mawrth

2 Corinthiaid 4:7-12

7 Dyma’r trysor mae Duw wedi ei roi i ni. Mae’n cael ei gario gynnon ni sy’n ddim byd ond llestri pridd — ffaith sy’n dangos mai o Dduw mae’r grym anhygoel yma’n dod, dim ohonon ni. 8 Er fod trafferthion yn gwasgu o bob cyfeiriad, dyn ni ddim wedi cael ein llethu’n llwyr. Dyn ni’n ansicr weithiau, ond heb anobeithio; 9 yn cael ein herlid, ond dydy Duw ddim wedi’n gadael ni; yn cael ein taro i lawr, ond yn cael ein codi yn ôl ar ein traed bob tro! 10 Wrth ddioddef yn gorfforol dyn ni’n rhannu rhyw wedd ar farwolaeth Iesu, ond mae hynny er mwyn i fywyd Iesu gael ei weld yn ein cyrff bregus ni. 11 Dyn ni sy’n fyw bob amser mewn peryg o gael ein lladd fel Iesu, er mwyn i fywyd Iesu gael ei weld yn ein cyrff marwol ni. 12 Rhaid i ni wynebu marwolaeth er mwyn i chi gael bywyd tragwyddol.

Cwestiynau

Cwestiwn 1

Mae Paul yn son am y ‘trysor’, beth wyt ti’n ei feddwl yw’r trysor yma? (efallai y bydd darlleniad ddoe yn gymorth!)

Cwestiwn 2

Roedd Paul yn credu fod dioddef yn rhan o fyw i Dduw – pam ei bod yn werth dioddef?

Cwestiwn 3

Sut wyt ti’n ymateb i ddioddefaint? Ydy hi’n werth dioddef er mwyn Iesu?

Gweddi:

Gweddïa y byddi di’n trysori Iesu uwchlaw bob dim arall. Diolch fod y trysor hwn yn eiddo i ti!

Want to know more?