
1 Mae’r amser yn dod pan fydd y babell ddaearol dyn ni’n byw ynddi (sef ein corff) yn cael ei thynnu i lawr. Ond dyn ni’n gwybod fod gan Dduw adeilad ar ein cyfer ni — cartref parhaol yn y nefoedd wedi ei adeiladu ganddo fe’i hun. 2 Yn y cyfamser dyn ni’n hiraethu am gael ein gwisgo â’n cyrff nefol. 3 A byddwn yn eu gwisgo — fydd dim rhaid i ni aros yn noeth. 4 Tra’n byw yn y babell ddaearol, dyn ni’n griddfan ac yn gorfod cario beichiau. Ond dyn ni ddim am fod yn noeth a heb gorff — dyn ni eisiau gwisgo’r corff nefol. Dyn ni eisiau i’r corff marwol sydd gynnon ni gael ei lyncu gan y bywyd sy’n para am byth. 5 Mae Duw ei hun wedi’n paratoi ni ar gyfer hyn, ac wedi rhoi’r Ysbryd Glân i ni yn flaendal o’r cwbl sydd i ddod. 6 Felly dyn ni’n gwbl hyderus, ac yn deall ein bod oddi cartref tra’n byw yn ein corff daearol, ac wedi’n gwahanu oddi wrth yr Arglwydd Iesu. 7 Dyn ni’n byw yn ôl beth dyn ni’n ei gredu, dim yn ôl beth dyn ni’n ei weld. 8 Dw i’n dweud eto ein bod ni’n gwbl hyderus o beth sydd i ddod. Er, wrth gwrs byddai’n well gynnon ni adael y corff hwn er mwyn cael bod adre gyda’r Arglwydd! 9 Ond adre neu beidio, ein huchelgais ni bob amser ydy ei blesio fe. 10 Achos bydd pob un ohonon ni’n cael ein barnu gan y Meseia ryw ddydd. Bydd pawb dderbyn beth mae’n ei haeddu am y ffordd mae wedi ymddwyn, pa un ai da neu ddrwg.
11 Felly, am ein bod ni’n gwybod fod yr Arglwydd i’w ofni, dyn ni’n ceisio perswadio pobl. Mae Duw yn gwybod sut rai ydyn ni, a dw i’n hyderus eich bod chi’n gwybod eich bod chi’n gallu’n trystio ni hefyd.
Cwestiwn 1
Mae Paul yn dweud fod Cristnogion yn ‘hiraethu am gael ein gwisgo â’n cyrff nefol’ (ad. 2). Wyt ti’n hiraethu am y nefoedd? Beth all helpu ti i feddwl am beth sydd i ddod yn amlach?
Cwestiwn 2
Yn ad. 6-11 mae Paul yn pwysleisio’r ffaith na ddylai Cristnogion deimlo’n gartrefol yn y byd yma. Pa bethau wyt ti’n ffocysu’n ormodol arno yn y byd yma yn hytrach nag ar Dduw?
Cwestiwn 3
Cawn ein hatgoffa gan Paul bod yn rhaid i bob un ohonom wynebu barn Crist ar ddiwedd ein bywyd (ad. 10). Sut mae hyn yn effeithio ar y ffordd yr wyt yn byw heddiw?
Gweddi:
Gweddïa y bydd Duw yn codi dy lygaid i realities nefol sy’n para am byth. Diolch Iddo am roi bywyd tragwyddol i ti.