Beth yw’r ddau orchymyn yn adnod 3 a beth yw’r fendith o wneud hyn?
Cwestiwn 2
Yn ad. 4 mae’r Salmydd yn dweud wrthym am ymhyfrydu yn yr Arglwydd. Mae fel petai yn dweud na fydd dim yn dod a mwy o hapusrwydd mewn bywyd na pherthynas gyda’r Arglwydd. A’i dy berthynas di gyda Duw sydd yn dod a’r mwyaf o hapusrwydd i ti yn dy fywyd? Wyt ti’n ystyried dy ffydd yn llawenydd neu’n faich?
Cwestiwn 3
Mae ail ran yr adnod yn dweud wrthym y bydd Duw’n rhoi ‘deisyfiad ein calonnau’ i ni pan fyddwn yn ymhyfrydu ynddo. Os mai yn yr Arglwydd mae llawenydd dy fywyd, sut fath o bethau ddylet ti fod eisiau’u cael?
Gweddi:
Gweddïa y bydd deisyfiadau dy galon yn plesio Duw. Diolch Iddo am fod yn bopeth i ni.