Dydd Mawrth 1 Ebrill

Salm 37:12-22

12 Mae’r rhai drwg yn cynllwynio yn erbyn y rhai sy’n byw yn iawn,

ac yn ysgyrnygu eu dannedd fel anifeiliaid gwylltion.

13 Ond mae’r ARGLWYDD yn chwerthin ar eu pennau!

Mae e’n gwybod fod eu tro nhw’n dod!

14 Mae’r rhai drwg yn tynnu eu cleddyfau, ac yn plygu eu bwâu,

i daro i lawr y rhai sy’n cael eu gorthrymu ac sydd mewn angen,

ac i ladd y rhai sy’n byw’n gywir.

15 Ond byddan nhw’n cael eu trywanu gan eu cleddyfau eu hunain,

a bydd eu bwâu yn cael eu torri!

16 Mae’r ychydig sydd gan berson sy’n byw yn iawn

yn well na’r holl gyfoeth sydd gan y rhai drwg.

17 Bydd pobl ddrwg yn colli eu grym,

ond mae’r ARGLWYDD yn cynnal y rhai sy’n byw yn iawn.

18 Mae’r ARGLWYDD yn gofalu amdanyn nhw bob dydd;

mae ganddyn nhw etifeddiaeth fydd yn para am byth.

19 Fydd dim cywilydd arnyn nhw pan mae’n ddyddiau anodd;

pan fydd newyn bydd ganddyn nhw ddigon i’w fwyta.

20 Ond bydd y rhai drwg yn marw.

Bydd gelynion yr ARGLWYDD yn cael eu difa,

fel gwellt yn cael ei losgi mewn ffwrn.

 

21 Mae pobl ddrwg yn benthyg heb dalu’r ddyled yn ôl;

ond mae’r rhai sy’n byw yn iawn yn hael ac yn dal ati i roi.

22 Bydd y bobl mae Duw’n eu bendithio yn meddiannu’r tir,

ond y rhai mae’n eu melltithio yn cael eu gyrru i ffwrdd.

Cwestiynau

Cwestiwn 1

Cymhara’r ffordd y mae Duw’n delio gyda’r drygionus a’r cyfiawn. Beth yw diwedd y drygionus?

Cwestiwn 2

Mae’n hawdd colli calon pan fyddwn yn edrych ar y drygioni yn y byd, ond mae’r Salmydd yn ein hatgoffa
am gyfiawnder Duw. Sut mae cofio hyn yn ein helpu i ddal ati fel Cristion?

Cwestiwn 3

Wyt ti’n llawenhau yng nghyfiawnder Duw a’r ffaith y bydd pob drygioni yn cael ei farnu?

Gweddi:

Gweddïa y byddi ddim yn digalonni o weld sefyllfa’r byd ond yn diolch i Dduw am ei gyfiawnder.

Want to know more?