Dydd Gwener 4 Ebrill

Salm 37:30-33

30 Mae pobl dduwiol yn dweud beth sy’n ddoeth,

ac yn hybu cyfiawnder.

31 Cyfraith Duw sy’n rheoli eu ffordd o feddwl,

a dŷn nhw byth yn llithro.

32 Mae’r rhai drwg yn disgwyl am gyfle

i ymosod ar y sawl sy’n byw’n iawn,

yn y gobaith o’i ladd;

33 ond fydd yr ARGLWYDD ddim gadael iddo syrthio i’w dwylo;

fydd e ddim yn cael ei gondemnio yn y llys.

Cwestiynau

Cwestiwn 1

Pa fath o eiriau sydd ar dy wefusau di yn aml? Sut allwn ni sicrhau fod Gair Du war ein calon?

Cwestiwn 2

Ydyn ni’n cymryd Gair Duw o ddifri neu oes gennym gywilydd or Beibl?

Cwestiwn 3

Sut mae gwybod bod Yr Arglwydd o’n plaid ni (ad. 33) yn gymorth i ddal ati?

Gweddi:

Gweddïa y byddi’n trysori Gair Duw, y Beibl. Diolch i Dduw am ddatguddio ei Hun i ni drwy’r Beibl.

Want to know more?