Gwneud Marc: Darllen a deall y newyddion da am y Brenin Iesu
Bwriad yr astudiaethau hyn yw helpu Cristnogion ifainc i wneud yr hyn mae llawer o Gristnogion hŷn yn ei gael yn anodd, sef darllen a deall y Beibl! Byddwn yn cynhyrchu 55 o astudiaethau o Efengyl Marc. Bydd bod astudiaeth yn cynnwys darlleniad o’r Beibl, sylwadau ar y darn hwnnw, pedwar cwestiwn i chi feddwl amdanynt, ac awgrym am rywbeth i weddïo amdano.
Bydd yr astudiaethau yn cychwyn ar Ddydd Llun 2 Medi, a bydd un y dydd am y wythnosau nesaf, ac eithrio dydd Sadwrn a dydd Sul, er mwyn i chi cael cyfle i dal i fyny gydag unrhyw ddarlleniadau rydych wedi colli.
Beth am siarad gyda rhai o’ch ffrindiau a chytuno i ddarllen trwy Efengyl Marc gyda’ch gilydd? Ein gobaith yw bydd yr astudiaethau hyn yn helpu chi i ddod i nabod Iesu yn well a dod i garu fe yn fwy.