Oes rhaid i chi ddarllen y Beibl bob dydd i fynd i’r nefoedd?

by Dan Towers

Yr ateb syml i’r cwestiwn hwn yw “Na”. Yr oedd dyn a gafodd ei groeshoelio drws nesaf i Iesu, ac ni chafodd gyfle i wneud dim byd ond bod yn sori am ei bechodau, ac ymddiried yn Iesu. Dywedodd Iesu wrtho, “Wir i ti – cei di ddod gyda mi i baradwys heddiw.” (Luc 23:43).

Ni chafodd y dyn unrhyw gyfle i ddarllen ei Feibl er mwyn ennill ei faddeuant. Roedd y dyn hwn yn amlwg wedi byw bywyd drwg (roedd rhaid i chi fod yn droseddwr eithaf ofnadwy i’r Rhufeiniaid eich croeshoelio). Ond digwyddodd rhywbeth iddo wrth iddo hongian ar y groes – fe stopiodd a weiddi ar Iesu, a sylweddoli bod dyn diniwed yn marw wrth ei ymyl, ac mai Iesu oedd Mab Duw. Dywedodd y dyn “Iesu, cofia amdana i pan fyddi di’n teyrnasu.” (Luc 23:42). Sylweddolodd y dyn hwn mai Iesu oedd y Brenin, gyda theyrnas, ac mai ef oedd y Meseia (yr un oedd wedi ei addo), a rhoddodd ei ffydd yn Iesu i’w achub.

6

Nid yw cyrraedd y nefoedd yn dibynnu ar gadw rhestr o reolau.

Mae nifer o bobl yn credu bod yn rhaid i ni fyw yn dda a cadw rhestr o reolau er mwyn mynd i’r Nefoedd. Gelwir y rhestr hon o’r rheolau yn “Gyfraith”, ac mae cyfraith Duw yn berffaith ac yn dda. Ond ni all ein hachub oherwydd fedrwn ni ddim cadw’r gyfraith. Mae’r gyfraith yn dod yn athro ysgol i ni, gan ein dysgu ein bod yn bechadurus, a bod angen Iesu arnom.

Mae’r Beibl yn dweud os ydyn ni’n torri un rhan o gyfraith Duw yna rydyn ni’n euog o dorri’r cyfan. Peidiwch â meddwl am gyfraith Duw mewn ffordd negyddol; os byddai pawb yn cadw’r gyfraith byddai’n gwneud y byd hwn yn lle prydferth i fyw ynddo. Ond waeth pa mor galed y byddwn yn trio, ni allwn ei gadw – felly ni all ein hachub. Y newyddion da yw, pan rydyn ni’n ymddiried yn Iesu, mae Duw yn ysgrifennu Ei gyfraith ar ein calonnau, ac er y byddwn ni’n dal i bechu, bydd cadw Ei gyfraith yn dod yn rhywbeth y byddwn ni’n mwynhau ei wneud. Mae’r Beibl yn dweud bod Cristnogion yn peidio â bod yn gaethweision i bechod (torri’r gyfraith), ac yn hytrach yn dod yn gaethweision i gyfiawnder (Rhufeiniaid 6:18).

Dyna pam y daeth Iesu. Ef yn unig sydd wedi cadw cyfraith Duw yn berffaith. Cafodd ei demtio ym mhob ffordd fel ni, ond ni phechodd erioed.

Mae Rhufeiniaid 8:1-4 yn ei osod yn berffaith: “Ond dydy’r rhai sy’n perthyn i’r Meseia Iesu ddim yn mynd i gael eu cosbi! O achos beth wnaeth y Meseia Iesu mae’r Ysbryd Glân, sy’n rhoi bywyd, wedi fy ngollwng i’n rhydd o afael y pechod sy’n arwain i farwolaeth. Doedd y Gyfraith Iddewig ddim yn gallu gwneud hynny, am fod y natur ddynol mor wan. Ond dyma Duw yn anfon ei Fab ei hun i fod yn berson dynol yr un fath â ni bechaduriaid, er mwyn iddo orchfygu’r pechod oedd ar waith yn y natur ddynol drwy roi ei fywyd yn aberth dros bechod. Gwnaeth hyn er mwyn i ni wneud beth mae Cyfraith Duw yn ei ofyn. Dŷn ni bellach yn byw fel mae’r Ysbryd Glân eisiau, dim fel mae ein natur bechadurus eisiau.”

Felly, dydyn ni ddim yn cael ein hachub trwy ddarllen y Beibl bob dydd (na chadw unrhyw reol neu ddefod arall).

Ond mae rheswm da iawn i Gristion fod eisiau darllen y Beibl bob dydd.

Cleddyf yr Ysbryd Glân yw’r Beibl (Effesiaid 6:17). Gair Duw ydyw, a thrwy ddarllen gair Duw yn ffyddlon bob dydd yr ydym yn bwydo ein hunain a’n heneidiau. Dyma ein bara bob dydd (Mathew 4:4). Bydd yr Ysbryd Glân yn ei gymryd a’i ddefnyddio i’n gwneud ni’n debyg i Iesu. Mae’n ein bwydo, yn rhoi maeth i ni, ac yn ein dysgu am ewyllys Duw ar gyfer ein bywydau. Ynddo rydyn ni’n gweld holl addewidion Duw, rydyn ni’n dysgu pwy yw Duw a sut un yw e. Rydyn ni’n dysgu faint mae’n ein caru ni, a faint mae’n casáu pechod. Mae’r Beibl yn llawn doethineb a gwirionedd.

Os wyt ti eisiau tyfu fel Cristion, dod i adnabod Duw, a byw’r bywyd gorau y gelli di er mwyn Iesu, yna mae angen i ti gwybod dy Feibl. Mae Duw yn siarad â ni trwy ei Air.

Nid oes angen i ti ddarllen dy Feibl bob dydd i gyrraedd y nefoedd, oherwydd rydyn ni’n cyrraedd y nefoedd trwy ffydd yn Iesu yn unig. Ond trwy beidio â darllen dy Feibl a gweddïo bob dydd rwyt ti’n colli allan ar un o fendithion mwyaf a phwysicaf y bywyd Cristnogol. Mae’n fraint cael geiriau gwir a dibynadwy Duw yn ein dwylo.

Hebreaid 4:12 “Mae neges Duw yn fyw ac yn cyflawni beth mae’n ei ddweud. Mae’n fwy miniog na’r un cleddyf, ac yn treiddio’n ddwfn o’n mewn, i wahanu’r enaid a’r ysbryd, y cymalau a’r mêr. Mae’n barnu beth dŷn ni’n ei feddwl ac yn ei fwriadu.”

Want to know more?