
36 Roedd un o’r Phariseaid wedi gwahodd Iesu i swper, felly aeth Iesu i’w dŷ ac eistedd wrth y bwrdd. 37 Dyma wraig o’r dref oedd yn adnabyddus am ei bywyd anfoesol yn clywed fod Iesu yn cael pryd o fwyd yng nghartre’r Pharisead, ac aeth yno gyda blwch hardd yn llawn o bersawr.Croes 38 Plygodd y tu ôl iddo wrth ei draed, yn crio. Roedd ei dagrau yn gwlychu ei draed, felly sychodd nhw â’i gwallt a’u cusanu, ac yna tywallt y persawr arnyn nhw.
39 Pan welodd y dyn oedd wedi gwahodd Iesu beth oedd yn digwydd, meddyliodd, “Petai’r dyn yma yn broffwyd byddai’n gwybod pa fath o wraig sy’n ei gyffwrdd – dydy hi’n ddim byd ond pechadures!”
40 Ond dyma Iesu’n dweud wrtho, “Simon, dw i eisiau dweud rhywbeth wrthot ti.” “Beth athro?” meddai.
41 “Roedd dau o bobl mewn dyled i fenthyciwr arian. Pum can denariws oedd dyled un, a hanner can denariws oedd dyled y llall. 42 Ond pan oedd y naill a’r llall yn methu ei dalu’n ôl, dyma’r benthyciwr yn canslo dyled y ddau! Felly, pa un o’r ddau wyt ti’n meddwl fydd yn ei garu fwyaf?”
43 “Mae’n debyg mai’r un gafodd y ddyled fwyaf wedi’i chanslo,” meddai Simon.
“Rwyt ti’n iawn,” meddai Iesu.
44 Yna dyma Iesu’n troi at y wraig, ac yn dweud wrth Simon, “Edrych ar y wraig yma. Pan ddes i mewn i dy dŷ di, ches i ddim dŵr i olchi fy nhraed. Ond mae hon wedi gwlychu fy nhraed â’i dagrau a’u sychu â’i gwallt. 45 Wnest ti ddim fy nghyfarch i â chusan, ond dydy hon ddim wedi stopio cusanu fy nhraed ers i mi gyrraedd. 46 Wnest ti ddim rhoi croeso i mi drwy roi olew ar fy mhen, ond mae hon wedi tywallt persawr ar fy nhraed. 47 Felly dw i’n dweud wrthot ti, mae pob un o’i phechodau hi wedi’u maddau – ac mae hi wedi dangos cariad mawr ata i. Ond bach iawn ydy cariad y sawl sydd wedi cael maddeuant am bethau bach.”
48 Wedyn dyma Iesu’n dweud wrth y wraig ei hun, “Mae dy bechodau wedi’u maddau.”
49 A dyma’r gwesteion eraill yn dechrau siarad ymhlith ei gilydd, “Pwy ydy hwn, yn meddwl y gall faddau pechodau?”
50 Dyma Iesu’n dweud wrth y wraig, “Am i ti gredu rwyt wedi dy achub; dos adre! Bendith Duw arnat ti!”
Cwestiwn 1
Sut ti’n meddwl fyddai pobl wedi ymateb wrth weld yr hyn oedd yn digwydd yma?
Cwestiwn 2
Sut roedd ymddygiad y wraig yn wahanol i’r Pharisead a gwesteion eraill?
Cwestiwn 3
Pam fod y wraig yma wedi ymddwyn fel hyn?
Gweddi:
Agor ein llygaid o Dad, i weld pa mor anhygoel ac arbennig yw Iesu, a rho hyder i ni ddod atat ti i dy addoli er ein holl methiannau. Amen.