Dydd Gwener 21ain Chwefror

Iago 5:13-18

13 Oes rhywun yn eich plith chi mewn trafferthion? Dylai weddïo. Oes rhywun yn hapus? Dylai ganu cân o fawl i Dduw. 14 Oes rhywun yn sâl? Dylai ofyn i arweinwyr yr eglwys leol ddod i weddïo drosto a’i eneinio ag olew ar ran yr Arglwydd. 15 Os gwnân nhw weddïo a chredu yn nerth Duw bydd y claf yn cael ei iacháu. Bydd yr Arglwydd yn ei godi ar ei draed, ac os ydy e wedi pechu, bydd yn cael maddeuant. 16 Felly cyffeswch eich pechodau i’ch gilydd a gweddïwch dros eich gilydd, er mwyn i chi gael eich iacháu. Mae gweddi daer rhywun sydd â pherthynas iawn gyda Duw yn beth grymus ac effeithiol. 17 Dyn cyffredin fel ni oedd Elias, a gweddïodd yn gyson iddi beidio glawio, a wnaeth hi ddim glawio am dair blynedd a hanner! 18 Wedyn gweddïodd eto, a dyma hi’n tywallt y glaw, ac roedd cnydau yn dechrau tyfu ar y ddaear eto.

Cwestiynau

Cwestiwn 1

Sut fath o berson oedd Elias?

Cwestiwn 2

Os gall gweddi daer atal y glaw – beth arall all wneud?

Cwestiwn 3

Gweddïa dros bobl yr wyt yn eu hadnabod sy’n sâl neu mewn trafferth.

Gweddi:

Dad, diolch dy fod ti’n gwrando ar ein gweddïau ac yn eu hateb. Diolch dy fod ti’n gweld hyn dro ar ôl tro yn y Beibl. Helpa ni i weld gweddïau wedi’u hateb yn ein bywyd.

Want to know more?