Dydd Gwener 28 Mawrth

Salm 37:1-6

1 Paid digio pan mae pobl ddrwg yn llwyddo;

paid bod yn genfigennus ohonyn nhw.

2 Byddan nhw’n gwywo’n ddigon sydyn, fel glaswellt,

ac yn diflannu fel egin gwan.

3 Trystia’r ARGLWYDD a gwna beth sy’n dda,

Setla i lawr yn y tir a mwynhau ei ffyddlondeb.

4 Ceisia ffafr yr ARGLWYDD bob amser,

a bydd e’n rhoi i ti bopeth wyt ti eisiau.

5 Rho dy hun yn nwylo’r ARGLWYDD

a’i drystio fe; bydd e’n gweithredu ar dy ran di.

6 Bydd e’n achub dy gam di o flaen pawb!

Bydd y ffaith fod dy achos yn gyfiawn

mor amlwg a’r haul ganol dydd.

Cwestiynau

Cwestiwn 1

Beth yw’r ddau orchymyn yn adnod 3 a beth yw’r fendith o wneud hyn?

Cwestiwn 2

Yn ad. 4 mae’r Salmydd yn dweud wrthym am ymhyfrydu yn yr Arglwydd. Mae fel petai yn dweud na fydd dim yn dod a mwy o hapusrwydd mewn bywyd na pherthynas gyda’r Arglwydd. A’i dy berthynas di gyda Duw sydd yn dod a’r mwyaf o hapusrwydd i ti yn dy fywyd? Wyt ti’n ystyried dy ffydd yn llawenydd neu’n
faich?

Cwestiwn 3

Mae ail ran yr adnod yn dweud wrthym y bydd Duw’n rhoi ‘deisyfiad ein calonnau’ i ni pan fyddwn yn ymhyfrydu ynddo. Os mai yn yr Arglwydd mae llawenydd dy fywyd, sut fath o bethau ddylet ti fod eisiau’u cael?

Gweddi:

Gweddïa y bydd deisyfiadau dy galon yn plesio Duw. Diolch Iddo am fod yn bopeth i ni.

Want to know more?