
7 Bydd yn amyneddgar wrth ddisgwyl am yr ARGLWYDD.
Paid digio pan wyt ti’n gweld pobl eraill yn llwyddo
wrth ddilyn eu cynlluniau cyfrwys.
8 Paid gwylltio am y peth, na cholli dy dymer.
Paid digio. Drwg ddaw iddyn nhw’n y diwedd!
9 Bydd pobl ddrwg yn cael eu taflu allan,
ond bydd y rhai sy’n gobeithio yn yr ARGLWYDD
yn meddiannu’r tir!
10 Fydd y rhai drwg ddim i’w gweld yn unman mewn ychydig!
Byddi’n edrych amdanyn nhw, ond byddan nhw wedi mynd.
11 Ond bydd y rhai sy’n cael eu cam-drin yn meddiannu’r tir,
ac yn cael mwynhau heddwch a llwyddiant.
Cwestiwn 1
Mae’r Salmydd yn dweud na ddylem boeni pan mae pobl ddrwg yn llwyddo ac yn ennill. Pam fod y Salmydd yn dweud hyn?
Cwestiwn 2
Yn yr adnodau yma mae’r Salmydd yn dweud y ‘bydd y gostyngedig yn meddiannu’r tir ac yn mwynhau heddwch llawn’ – y bydd Duw yn gwobrwyo’r rhai sy’n ei anrhydeddu ef. Beth mae’n golygu i ymddiried yn ffyddlondeb Duw?
Cwestiwn 3
Golyga sofraniaeth fod rhywun ‘yn rheoli’. Mae’r rhan yma o’r Salm yn dweud fod Duw’n rheoli beth bynnag yw’r amgylchiadau. Mae cynllun Duw yn dda ac yn sicr o ddigwydd. Oes gennyt ti hyder yn Nuw?
Wyt ti’n ymddiried y bydd yr hyn mae wedi ei addo yn digwydd?
Gweddi:
Gweddïa y byddi’n trystio Duw mewn sefyllfa anodd yn dy fywyd ar hyn o bryd. Diolch Iddo fod E yn rheoli’n gywir a da.